Miliwn a Fi – Rhaglen Awyr Fawr
Mae BBC Plant mewn Angen yn bodoli i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y plentyndod maen nhw’n ei haeddu – a’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu.
Mae ein cronfa Miliwn a Fi yn cynorthwyo plant rhwng 8 ac 13 oed. Mae’n canolbwyntio ar eu llesiant emosiynol a’u hiechyd meddwl.
Nod y gronfa hon yw darparu cymorth yn gynnar, cyn i broblemau iechyd meddwl ddatblygu.
Fel rhan o’r rhaglen hon, fe wnaethom ganolbwyntio ar effaith arwahanu daearyddol ar lesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant.
Mae ymchwil gan y Ganolfan Iechyd Meddwl (adroddiad) yn tynnu sylw at y ffaith bod lleisiau plant yn aml yn absennol o ymgynghoriadau. Dylid dyrannu cymorth a chyllid penodol i gyrraedd plant mewn cymunedau anghysbell.
Mae’r rhaglen Awyr Fawr wedi cael ei datblygu mewn ymateb i’r anghenion hyn.
Ar gyfer beth mae cyllid y Rhaglen Awyr Fawr?
Grantiau Awyr Fawr
Grantiau Awyr Fawr
- Mae’r grantiau ar gyfer dulliau ymyrryd yn gynnar. Bydd y grantiau hyn yn cynorthwyo â llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant rhwng 8 ac 13 oed sy’n byw mewn cymunedau sydd wedi eu arwahanu’n ofodol.
- Rhaglen drwy wahoddiad yn unig yw hon ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig, anghysbell ac ar ynysoedd.
- Gan fod ceisiadau drwy wahoddiad yn unig, byddant yn cael eu datblygu drwy sgyrsiau â thimau BBC Plant mewn Angen ym mhob un o’r 4 gwlad ac yn defnyddio ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth leol.
- Rydym wedi ymrwymo i gyllido sefydliadau ar lawr gwlad ledled y Deyrnas Unedig, gan ddarparu’r cysylltiadau cadarnhaol hanfodol hynny sy’n ategu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl da.
- Bydd cyllid o hyd at £5,000 yn cael ei ddyfarnu er ein bod yn disgwyl y bydd amrywiaeth yn y grantiau a ddyfernir.
- Gall mudiadau wneud cais am hyd at 2 flynedd, heb ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau. Rhaid i’r ceisiadau gyd-fynd â chynlluniau cyllido lleol BBC Plant mewn Angen a dynodwyr gwledig a ddatblygir ar lefel leol. Mae manylion cyswllt timau lleol ar gael yma.
- Gall rhai sy’n cael grant gennym ni’n barod wneud cais, ond rydym yn awyddus i dargedu mudiadau a grwpiau nad ydynt wedi cael eu cyllido gennym ni.
- Dim ond un grant Awyr Fawr y bydd sefydliadau’n gallu ei gael.
Cymorth Awyr Fawr
Cymorth Awyr Fawr
Bydd rhaglen gymorth wedi ei theilwra ar gyfer mudiadau ar lawr gwlad ar gael i fudiadau sy’n cael eu cyllido.
Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu un-i-un, digwyddiadau sector, cyngor pwrpasol, cyfeirio a hyfforddiant. Bydd y rhaglen gymorth hon yn mapio darpariaeth leol ac yn cysylltu prosiectau ar lawr gwlad â’i gilydd. Bydd yn meithrin hyder drwy ddysgu, yn cynyddu dylanwad ac yn ymgysylltu â llunwyr polisïau.
Llais y Plentyn Awyr Fawr:
Llais y Plentyn Awyr Fawr:
Bydd y rhaglen hon yn gwrando, yn casglu ac yn chwyddo lleisiau plant sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell, gwledig ac ynysig ar draws y Deyrnas Unedig.
Safonau Gofynnol
Mae BBC Plant mewn Angen yn defnyddio Safonau Gofynnol ar gyfer rhoi grantiau i edrych ar gryfderau sefydliad. Rydym yn edrych ar feysydd gan gynnwys eich cyllid, llywodraethu a diogelu.
Os cewch eich gwahodd i wneud cais, bydd rhagor o fanylion am y rhain yn cael eu trafod gyda chi, ond gallwch ddarllen mwy yma Safonau Sylfaenol ar gyfer Dyfarnu Grantiau
Pwy allai gael eu gwahodd i wneud cais?
- Sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
- Sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- Os na fyddwn yn cyllido eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa bryd y gallwch wneud cais i ni nesaf.
- Rydym yn ceisio blaenoriaethu sefydliadau lleol, llai eu maint. O ganlyniad, ar gyfer costau prosiect, anaml iawn y byddwn yn ariannu sefydliadau â throsiant blynyddol o fwy na £2m yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf. Rydym yn deall bod rhai sefydliadau ag incwm uwch yn cyflawni gwaith hollbwysig i blant a phobl ifanc. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan y sefydliadau canlynol waeth beth fo’u trosiant.
- Hosbisau (gan gynnwys Hosbisau Plant)
- Cymdeithasau Tai
- Ceisiadau a fydd yn cyflawni gwaith ar lefel genedlaethol neu ledled y Deyrnas Unedig. (sef gweithio ar draws gwlad gyfan, neu nifer o wledydd yn y Deyrnas Unedig)
- Rydym yn deall, mewn amgylchiadau penodol, y gall sefydliadau mwy a/neu genedlaethol fod yn y sefyllfa orau i gyflawni gwaith i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf
- Os yw sefydliad yn cyflawni mewn mwy nag un wlad yn y Deyrnas Unedig – gall wneud cais am grant prosiect a’i dderbyn mewn mwy nag un wlad (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban) ar unrhyw un adeg.
Bydd BBC Plant mewn Angen yn ariannu pobl a sefydliadau sy'n:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
- Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
- Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
- Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
- Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
- Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
- Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc
Nid yw BBC Plant mewn Angen yn cyllido:
- Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
- Mudiadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad; edrychwch ar ein Canllawiau A i Z i gael rhagor o fanylion
- Llywodraeth leol, carchardai neu gyrff y GIG
- Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
- Prosiectau sy’n hybu crefydd
- Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig
- Triniaeth feddygol neu ymchwil
- Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
- Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi ei dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
- Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
- Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
- Gweithgarwch gwleidyddol gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
- Unigolion
- Costau a drosglwyddir i gyrff eraill
- Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
- Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
- Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
- Prosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant
- Gwariant amhenodol
Beth mae angen i mi ei wybod?
Mae’n bwysig iawn eich bod yn taro golwg ar ein Canllawiau A i Z ar-lein os cewch eich gwahodd i wneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi rhag ofn i chi wneud cais am gostau nad ydym yn eu cyllido. Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau.
Mae ein Canllawiau A i Z yn cynnwys manylion ein polisïau dyrannu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer mathau penodol o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n gofyn am gyllid ar gyfer offer.
English
To read this page in English, please click here.