
Camau Nesaf Pudsey
Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.
O ganlyniad, ni fydd BBC Plant mewn Angen yn gallu derbyn ceisiadau newydd am Ddatganiadau o Ddiddordeb ar ôl 15 Ebrill 2025 nes byddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, erbyn diwedd mis Medi 2025.
Bydd eich cyfrif ar-lein presennol (a elwir hefyd yn borth derbynnydd grant) yn cau ar 25 Gorffennaf 2025. Byddwn yn lansio ein porth derbynnydd grant newydd erbyn diwedd mis Medi 2025.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Os ydych chi’n gwneud cais neu’n derbyn grant ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin.
Camau Nesaf Pudsey
Mae Camau Nesaf Pudsey yn canolbwyntio ar ymgeiswyr newydd sy’n gweithio mewn ardaloedd daearyddol a/neu thematig ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi’u tanwasanaethu.
Bydd rhaglen gyllido Camau Nesaf Pudsey yn helpu i sicrhau mwy o degwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith dyfarnu grantiau drwy gyrraedd plant a phobl ifanc sy’n cael eu tanwasanaethu ac sydd wedi’u hymyleiddio. Gall heriau yn cynnwys tlodi, gwahaniaethu ac allgáu effeithio arnynt. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal neu sy’n anabl. Gall gynnwys plant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig.
Mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey ar agor ar hyn o bryd. Gallwch wneud cais drwy ein rhaglenni Costau Prosiect neu Gostau Craidd . Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y rhaglen hon, gan gynnwys y blaenoriaethau lleol isod, mae’n bosibl y byddwn yn eich ystyried ar gyfer cyllid Camau Nesaf Pudsey. Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer Camau Nesaf Pudsey, byddwn yn prosesu eich cais am Gostau Prosiect neu Gostau Craidd fel arfer. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen neu sut i wneud cais, cysylltwch â ni ar 0345 609 0015.
Beth yw ystyr ‘Wedi’u tanwasanaethu’?
Beth yw ystyr ‘Wedi’u tanwasanaethu’?
Ardaloedd lle nad yw ein cyllid yn cyrraedd plant a phobl ifanc sydd ar gyrion cymdeithas. Rydym yn nodi’r meysydd hyn gan ddefnyddio data ac ymchwil mewnol ac allanol.
Beth yw ystyr ‘Wedi’u hymyleiddio’?
Beth yw ystyr ‘Wedi’u hymyleiddio’?
Pan fydd plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn wahanol neu’n wynebu rhwystrau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’r rhwystrau hyn yn golygu eu bod yn llai abl i gymryd rhan mewn agweddau ar fywyd bob dydd neu i fanteisio ar wasanaethau neu gyfleoedd. Gall plant a phobl ifanc gael eu hymyleiddio oherwydd amrywiaeth o ffactorau. Gallai’r rhain gynnwys hunaniaeth rywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, rhywedd, daearyddiaeth, ethnigrwydd, tlodi neu anabledd.
Ein hymrwymiad i degwch a chynhwysiant:
Mae BBC Plant mewn Angen yn ymrwymo i degwch a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Ein cyfrifoldeb ni yw arddel agwedd amrywiol, deg a chynhwysol ym mhopeth a wnawn. Mae plant a phobl ifanc yn wych am hyn ac mae angen i ninnau fod hefyd.
Rydyn ni’n eich annog i gysylltu â ni gydag unrhyw adborth am ein proses dyrannu grantiau. Rydyn ni am fod mor hygyrch a chefnogol â phosibl i’ch sefydliad. Gallai hyn olygu cyfieithu ein cais i iaith arall. Byddwn hefyd yn siarad â chi i helpu i egluro unrhyw gwestiynau. Os oes angen help arnoch chi i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 neu anfonwch e-bost i [email protected].
Wrth i ni fynd ymhellach ar y daith hon gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu i sicrhau ein bod yn dyrannu grantiau mewn ffordd deg, amrywiol a chynhwysol.
Rydyn ni am i’n proses o wneud cais weithio’n dda i chi. Mae’n newydd i ninnau hefyd, felly byddwn yn dysgu ac yn gwella wrth fynd ymlaen. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer gwella.
Mae cyllid Camau Nesaf Pudsey ar gyfer ymgeiswyr newydd i BBC Plant mewn Angen. Byddwn yn cefnogi sefydliadau sydd:
- Yn rhoi sylw i’r blaenoriaethau lleol penodol a nodwyd ar gyfer y rownd hon yn eu Gwlad neu eu Rhanbarth (gweler y tabl isod)
- Heb gael eu hariannu gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen
- Ag incwm blynyddol o £100,000 neu lai (yn ôl set gyflawn ddiweddaraf y sefydliad o gyfrifon)
- Wedi’u lleoli yn y gymuned y maent yn ei gwasanaethu
- Yn cyrraedd plant a phobl ifanc rhwng 0 a 18 oed sy’n profi anghydraddoldeb o ran cyfle
Gall sefydliadau wneud cais am:
- Grantiau rhwng £1,000 a £15,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd
- Cyllid Craidd (costau rhedeg sefydliadol) neu gyllid Prosiect
Os hoffech chi drafod gwneud cais i raglen Camau Nesaf Pudsey, cysylltwch â’ch tîm lleol.
Pryd alla i wneud cais?
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.
O ganlyniad, ni fydd BBC Plant mewn Angen yn gallu derbyn ceisiadau newydd am Ddatganiadau o Ddiddordeb ar ôl 15 Ebrill 2025 nes byddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, erbyn diwedd mis Medi 2025.
Y dyddiad cau i Ddatganiadau o Ddiddordeb ar gyfer rownd gyllido gyntaf Camau Nesaf Pudsey yw 11:59am 15 Ebrill 2025.
Blaenoriaethau Lleol ar gyfer rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn nhymor y Gwanwyn 2025:
Yr Alban | Yn yr Alban, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig.
Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gymunedau Asiaidd. |
Gogledd Iwerddon | Yng Ngogledd Iwerddon, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig y tu allan i ardal Belfast. |
Cymru | Yng Nghymru, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc y mae heriau a rhwystrau sy’n gysylltiedig â gwahaniaethu, stigma ac allgáu ym Blaenau Gwent, Merthyr Tydfil a Phowys.
A/NEU
Sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig y tu allan i ardal Caerdydd. |
Gogledd Lloegr | Yn Rhanbarth Gogledd Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gymunedau Asiaidd yn Rochdale, Swydd Gaerhirfryn, Sheffield, Newcastle a Middlesborough.
Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gymunedau Bangladeshaidd a Phacistanaidd. |
Canol Lloegr | Yn rhanbarth Canol Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant Blynyddoedd Cynnar yn Birmingham a Chaerlŷr. |
De-orllewin Lloegr | Yn Ne-orllewin Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd o hil lleiafrifiedig.
Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gymunedau Asiaidd. |
Llundain | Yn Llundain, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau yn Bexley, Harrow, Havering, Hillingdon, Merton.
A/NEU:
Plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. A/NEU:
Plant a theuluoedd sy’n byw mewn llety ansefydlog, anaddas neu dros dro. |
De-ddwyrain Lloegr | Yn rhanbarth De-ddwyrain Lloegr, mae rhaglen Camau Nesaf Pudsey yn croesawu ceisiadau gansefydloiadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ar y cyrion yn
Dover, Folkestone a Hythe, Gravesham, Hastings, Ynys Wyth, Milton Keynes, Southampton a Thanet.
A/NEU
Sefydliadau sy’n cyrraedd plant sydd o hil lleiafrifiedig mewn unrhyw ran o ranbarth De Ddwyrain Lloegr. |
Ni fydd pob sefydliad yn gymwys ar gyfer rhaglen Camau Nesaf Pudsey. Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r meini prawf cymhwysedd yn ofalus. Os nad ydych chi’n gymwys ar gyfer rhaglen Camau Nesaf Pudsey, bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei brosesu fel cais Costau Prosiect neu Gostau Craidd. Edrychwch hefyd ar y meini prawf cymhwysedd ar gyfer ein rhaglenni grant Costau Prosiect neu Gostau Craidd treigl cyn i chi wneud cais.
Mae croeso i chi gysylltu â ni ar 0345 609 0015 neu [email protected] os nad ydych chi’n siŵr pa raglen sy’n addas i anghenion eich sefydliad.
Bydd Camau Nesaf Pudsey yn agor eto ddiwedd 2025 gyda ffocws a blaenoriaethau gwahanol.
Cymhwysedd
Pwy all wneud cais?
Pwy all wneud cais?
- Sefydliadau nad ydynt wedi cael eu hariannu gan BBC Plant mewn Angen o’r blaen
- Sefydliadau ag incwm blynyddol o £100,000 neu lai
- Sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
- Sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- Dim ond un grant y cewch chi wneud cais amdano a’i ddal ar unrhyw adeg.
- Os na fyddwn yn ariannu eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa bryd y gallwch wneud cais i ni nesaf.
- Sefydliadau sy’n bodloni ein Safonau Sylfaenol ar gyfer Rhoi Grantiau
Bydd BBC Plant mewn Angen yn ariannu pobl a sefydliadau sy'n:
Bydd BBC Plant mewn Angen yn ariannu pobl a sefydliadau sy'n:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
- Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
- Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
- Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
- Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
- Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
- Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc
Nid yw BBC Plant mewn Angen yn ariannu:
Nid yw BBC Plant mewn Angen yn ariannu:
- Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
- Mudiadau addysgol, gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad; edrychwch ar ein Canllawiau A i Z i gael rhagor o fanylion
- Llywodraeth leol, carchardai neu gyrff y GIG
- Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
- Prosiectau sy’n hybu crefydd
- Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig
- Triniaeth feddygol neu ymchwil
- Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
- Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi ei dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
- Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
- Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
- Gweithgarwch gwleidyddol, gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
- Unigolion
- Costau a drosglwyddir i gyrff eraill
- Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
- Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
- Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
- Prosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant
- Gwariant amhenodol
- Unrhyw weithgaredd sydd eisoes yn cael ei ariannu drwy grant arall. Ni allwn ariannu’r un gweithgaredd ddwywaith. Dylai pob cais ddangos yn glir ei fod naill ai ar gyfer gwaith gwahanol, neu ar gyfer gwaith gyda charfan wahanol o blant a phobl ifanc.
A ddylai eich sefydliad wneud cais?
A ddylai eich sefydliad wneud cais?
Mae’n bwysig iawn eich bod yn taro golwg ar ein Canllawiau A i Z ar-lein cyn gwneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi rhag ofn i chi wneud cais am gostau nad ydym yn eu cyllido. Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau.
Mae ein Canllawiau A i Z yn cynnwys manylion ein polisïau dyrannu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer mathau penodol o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n gofyn am gyllid ar gyfer offer.
Mae’r rhaglen hon ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn ardaloedd a nodwyd gennym fel rhai sy’n cael eu tanwasanaethu. Dim ond ar gyfer gwaith yn yr ardaloedd hyn, sydd wedi’u rhestru yma, y gallwch wneud cais i ni.
Os nad ydych yn gweithio yn yr ardaloedd hyn, efallai y byddwch yn dal yn gymwys ar gyfer ein rhaglenni Costau Prosiect neu Gostau Craidd.
Faint ddylech chi wneud cais amdano?
Faint ddylech chi wneud cais amdano?
- Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd.
- Gall cyrff wneud cais am rhwng £1,000 a £15,000 y flwyddyn.
- Yr isafswm y gallwch wneud cais amdano yw £3,000 (£1,000 y flwyddyn).
Sut mae gwneud cais?
Mae’r rhaglen Camau Nesaf Pudsey ar agor ar hyn o bryd. Rydych yn gwneud cais drwy ein rhaglenni Costau Prosiect neu Gostau Craidd. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Camau Nesaf Pudsey, byddwn yn prosesu eich cais Costau Prosiect neu Gostau Prosiect fel arfer. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen neu sut i wneud cais, cysylltwch â ni ar 0345 609 0015.
Rwyf wedi cyflwyno ffurflen gais, beth fydd yn digwydd nesaf?
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb Camau Nesaf Pudsey?
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb Camau Nesaf Pudsey?
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
- Os na fydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn anfon e-bost atoch i egluro ein penderfyniad. Oherwydd y nifer fawr o sefydliadau sy’n cofrestru drwy’r broses hon, allwn ni ddim rhoi rhagor o adborth i chi ar hyn o bryd.
- Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon dolen atoch at Ffurflen Gais ar-lein lawn
- Ar ôl i ni anfon y ddolen hon atoch, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais lawn yn eich cyfrif ar-lein
- Bydd gennych 30 diwrnod i gyflwyno’ch cais llawn, o’r diwrnod y byddwn yn anfon y ddolen atoch.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ffurflen gais lawn Camau Nesaf Pudsey?
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ffurflen gais lawn Camau Nesaf Pudsey?
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais lawn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
- Yn gyntaf, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y costau y gwnaethoch gais amdanynt yn gymwys ar gyfer ein cyllid
- Efallai y byddwn yn gofyn i chi drefnu slot amser gyda ni ar gyfer galwad ffôn fer am eich gweithdrefnau diogelu
- Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich cais neu am eich gwaith
- Bydd ceisiadau’n cael eu hanfon i gyfarfod gwneud penderfyniadau yn eich rhanbarth neu’ch gwlad, lle gwneir penderfyniadau ynghylch argymell cyllid
- Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnig grant i chi. Unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r canlyniad.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael penderfyniad?
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael penderfyniad?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd y neges e-bost yn egluro mwy am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Cewch ragor o wybodaeth hefyd yn yr adran ‘Mae gennyf grant’.
- Mae’n bosibl y bydd amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant. Mae’r rhain yn newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud neu’n bethau y bydd angen i chi eu dweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian y cytunwyd arno i chi
- Rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad drwy e-bost
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd yr e-bost yn rhoi rheswm byr i chi dros ein penderfyniad, ac yn cynnwys manylion ynghylch pryd y gallwch wneud cais eto.
Gallwch hefyd gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o adborth.
For the English page click here.