Y Broses o’r Dechrau i’r Diwedd
Rydym yn gwybod bod gwneud cais am gyllid yn gallu bod yn anodd ac mae’n cymryd llawer o amser. Felly, dyma ganllawiau cam wrth gam syml i egluro ein proses gyllido. Yma fe welwch ddolenni i’r holl wybodaeth berthnasol y bydd ei hangen arnoch.Y Broses o’r Dechrau i’r Diwedd
Step 1
Cyn i chi wneud cais
Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen ein gwybodaeth cyn gwneud cais:
- Gwybodaeth am ein ffrydiau cyllido cyfredol
- Ein polisïau a chymhwysedd o ran rhai pynciau penodol
- Y Safonau Gofynnol ar gyfer dyrannu grantiau (y mae’n rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus eu bodloni)
- Fideos gwybodaeth am ein strategaeth grantiau
Os oes gennych gwestiwn i ni nad yw’n cael ei ateb uchod, gallwch fynd i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin neu gallwch gysylltu â ni.
Step 2
Datgan Diddordeb
Rhan gyntaf y broses o wneud cais yw llenwi ffurflen ‘Datganiad o Ddiddordeb’. Ffurflen fer yw hon, i chi gael dweud mwy wrthym am eich sefydliad a’r gwaith rydych am i ni ei ariannu. Os ydym am glywed mwy am y gwaith rydych yn ei wneud, byddwn yn anfon ffurflen gais lawn atoch, er mwyn i chi ei llenwi. Bwriad y Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb yw bod yn ffordd gyflym a hawdd i chi ddweud wrthym beth yw syniad sylfaenol eich prosiect.
Bydd penderfyniadau’n seiliedig ar y gwaith rydych chi’n gobeithio ei wneud, yn ogystal â sut mae’n cyd-fynd â’n Cynlluniau Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Step 3
Cyflwyno Cais
Os bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, gofynnir i chi gyflwyno ffurflen gais lawn. Yn ystod y cam ymgeisio, gofynnir i chi roi rhagor o fanylion i ni am y gwaith rydych chi’n ei wneud. Byddwn hefyd yn gofyn am ragor o fanylion am gyllid, trefniadau llywodraethu a gweithdrefnau diogelu eich sefydliad.
Step 4
Rhagor o Wybodaeth
Ar gyfer ceisiadau o £15,000 neu lai y flwyddyn
Rydym yn anelu at wneud penderfyniadau’n gyflym ynghylch ceisiadau am £15,000 neu lai. Byddwn yn eich ffonio i wirio rhywfaint o wybodaeth am eich prosesau diogelu. Yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich cais a’ch gwaith, efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi egluro rhywfaint o wybodaeth. Ar gyfer rhai ceisiadau cymhleth, byddwn yn cael sgwrs hirach â chi am y gwaith rydych am i ni ei ariannu.
Ar gyfer ceisiadau o £15,000 neu fwy y flwyddyn
Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais lawn, efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom am eich sefydliad neu’r gwaith rydych yn ei wneud. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i holi rhai cwestiynau ychwanegol dros e-bost, galwad ffôn sydyn neu alwad asesu.
Step 5
Dechrau eich Grant
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon Llythyr Cynnig a ‘Ffurflen Derbyn Grant’ atoch. Cyn i chi dderbyn unrhyw daliadau, bydd angen i chi lofnodi a dychwelyd y ffurflen, ynghyd â’ch manylion banc, a chytuno i’n Telerau ac Amodau.
Efallai y gofynnir i chi fodloni rhai amodau cyn i ni ryddhau eich grant. Bwriad yr amodau hyn yw sicrhau bod eich grant yn rhedeg mor llyfn â phosibl. Gallent olygu eich bod yn gorfod gwneud rhywbeth, neu ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y canlynol:
- Eich trefniadau diogelu
- Cyllid eich sefydliad
- Eich trefniadau llywodraethu
- Neu unrhyw beth i gryfhau eich sefydliad neu brosiect
Fel un o amodau eich grant, efallai y bydd angen i chi gael sgwrs sydyn (dros y ffôn neu wyneb yn wyneb) â’ch Swyddog Grant lleol, i drafod eich grant. Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen gennych, bydd eich grant yn cael ei dalu mewn rhandaliadau yn ôl eich llythyr dyfarniad grant.
Step 6
Cyflawni Eich Prosiect
Ar ôl i chi gael eich Llythyr Cynnig, gallwch ddechrau gwneud y gwaith rydym wedi rhoi arian i chi ar ei gyfer – hyd yn oed os nad yw eich taliadau wedi cyrraedd eto. Efallai y bydd eich Swyddog Grant lleol yn cysylltu â chi i holi am eich prosiect a hyd yn oed yn dod i ymweld â’ch sefydliad.
Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw eich Swyddog Grant, cysylltwch â ni.
Step 7
Adrodd
Rydym yn gofyn i bawb sy’n derbyn grant gennym adrodd yn ôl i ni bob blwyddyn i ddweud wrthym sut maent wedi gwneud. Mae’r wybodaeth hon yn ein galluogi i ddeall eich grant yn well, ac yn rhoi cipolwg gwych i ni o’r gwaith anhygoel rydych chi’n ei wneud. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym am y gwahaniaethau cadarnhaol rydych chi wedi’u gwneud ym mywydau’r Plant a’r Bobl Ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw, ac anfon astudiaethau achos diddorol atom.
English
To read this page in English, please click here.