Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Children in a field

Ffrwd Gyllido Costau Prosiect

  • Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y ffrwd Costau Prosiect – gallwch wneud cais unrhyw bryd
  • Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith sydd eisoes wedi digwydd, nac unrhyw gostau a gafwyd, cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad
  • Y cam cyntaf wrth wneud cais am Gostau Prosiect yw llenwi ffurflen fer ar-lein – Datganiad o Ddiddordeb
  • Defnyddiwch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb i ddweud rhywfaint mwy wrthym am eich sefydliad a’r gwaith rydych am i ni ei ariannu
  • Byddwch yn gallu cael gafael ar y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb yn eich cyfrif ar-lein pan fydd y ffrwd gyllido ar agor
  • Os hoffem gefnogi’r gwaith sydd wedi’i amlinellu yn eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon ffurflen gais lawn atoch i’w llenwi
  • Bydd ein Cynlluniau Cenedlaethol a Rhanbarthol yn eich helpu i ddeall sut rydym yn blaenoriaethu penderfyniadau

Rydym yn derbyn tair gwaith yn fwy o Ddatganiadau o Ddiddordeb nag y gallwn wahodd i gyflwyno cais llawn. O’r rhai a wahoddir i gyflwyno cais llawn mae 1 o bob 2 yn cael cyllid.

Mae BBC Plant mewn Angen yn ymrwymo i degwch a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Ein cyfrifoldeb ni yw arddel agwedd amrywiol, deg a chynhwysol ym mhopeth a wnawn. Mae plant a phobl ifanc yn wych am hyn ac mae angen i ninnau fod hefyd.

Rydym yn eich annog i gysylltu â ni gydag unrhyw adborth am ein proses o ddyrannu grantiau. Rydym am fod mor hygyrch a chefnogol â phosibl i’ch sefydliad. Gallai hyn olygu cyfieithu ein cais i iaith arall. Byddwn hefyd yn siarad â chi i helpu i egluro unrhyw gwestiynau. Os oes angen help arnoch chi i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 neu anfonwch e-bost i [email protected]

Wrth i ni fynd ymhellach ar y daith hon gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu i sicrhau ein bod yn dyrannu grantiau mewn ffordd deg, amrywiol a chynhwysol.

Rydym am i’n proses o wneud cais weithio’n dda i chi. Mae’n newydd i ninnau hefyd, felly byddwn yn dysgu ac yn gwella wrth fynd ymlaen. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer gwella.

Beth yw Costau Prosiect?

Mae Costau Prosiect yn cefnogi nodau darn penodol o waith ac yn cefnogi’r broses o’i gyflawni. Bydd y gwaith hwn fel arfer am gyfnod cyfyngedig, ac yn seiliedig ar set benodol o weithgareddau.

Mae ein Ffrwd Gyllido Costau Prosiect ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Rydym yn ceisio gwneud penderfyniadau yn gyflymach ar gyfer grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.

Bydd yr wybodaeth isod yn eich helpu i benderfynu a ydych am wneud cais am Gostau Prosiect. Os ydych chi’n dymuno gwneud cais am Gostau Craidd yn lle hynny, ewch i’n tudalen Ffrwd Gyllido Costau Craidd.

Mae ein grantiau prosiect yn cael eu dyfarnu fel cyllid cyfyngedig. Rhaid eu defnyddio i dalu costau rhedeg hanfodol eich mudiad.

Gallai sefydliad ddefnyddio cyllid anghyfyngedig ar gyfer unrhyw nod elusennol ar unrhyw adeg, yn ôl disgresiwn llwyr y derbynnydd grant ei hun. Nid ydym yn dyfarnu cronfeydd cwbl anghyfyngedig fel hyn.

Mae’r model cyllido ‘adennill costau’n llawn’ wedi’i gynllunio i dalu am holl gost gweithgaredd, yn ogystal â chyfran o orbenion y sefydliad wrth iddo gael ei ddarparu. Gallai’r rhain gynnwys rhent, cyfleustodau neu gostau gweinyddol.

Ni ellir defnyddio grantiau BBC Plant mewn Angen i gefnogi modelau adennill costau’n llawn.

Pwy all wneud cais?

  • Sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
  • Dim ond gan sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol y byddwn yn ystyried ceisiadau am dros £15,000 y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban. Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau.
  • Sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
  • Gallwch ond wneud un cais a dal un grant ar unrhyw adeg.
  • Os oes gennych chi grant BBC Plant mewn Angen sydd i ddod i ben o fewn 12 mis gallwch wneud cais newydd am grant. Os byddwch yn llwyddiannus gyda’ch cais newydd, ni fydd yr arian yn cael ei ryddhau nes bod eich grant presennol yn dod i ben.
  • Os nad ydym yn ariannu eich cais byddwn yn eich cynghori pan fyddwch nesaf yn gallu gwneud cais i ni.
  • Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer ein ffrwd Costau Prosiect os oes gennych grant cyfredol gyda mwy na 12 mis ar ôl i’w gyflawni
  • Rydym yn ceisio blaenoriaethu sefydliadau lleol, llai. O ganlyniad, ar gyfer costau prosiect, anaml iawn y byddwn yn ariannu sefydliadau â throsiant blynyddol o fwy na £2m yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf. Rydym yn deall bod rhai sefydliadau ag incwm uwch yn cyflawni gwaith hollbwysig i blant a phobl ifanc. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan y sefydliadau canlynol waeth beth fo’u trosiant.
    • Hosbisau (gan gynnwys Hosbisau Plant)
    • Cymdeithasau Tai
    • Ceisiadau a fydd yn cyflawni gwaith ar lefel genedlaethol neu ledled y DU. (sef gweithio ar draws gwlad gyfan, neu nifer o wledydd yn y DU)
  • Rydym yn deall, mewn amgylchiadau penodol, y gall sefydliadau mwy a/neu genedlaethol fod yn y sefyllfa orau i gyflawni gwaith i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf
  • Os yw sefydliad yn cyflawni mewn mwy nag un wlad yn y DU – gall wneud cais am grant prosiect a’i dderbyn mewn mwy nag un wlad (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban) ar unrhyw un adeg.

Bydd BBC Plant mewn Angen yn ariannu pobl a sefydliadau sy’n:

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
  • Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
  • Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
  • Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
  • Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
  • Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
  • Ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc

Nid yw BBC Plant mewn Angen yn ariannu:

  • Gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i’w ariannu
  • Sefydliadau addysgol gan gynnwys ysgolion, prifysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Ysgolion arbennig yw’r unig eithriad; edrychwch ar ein Canllawiau A i Y i gael rhagor o fanylion
  • Llywodraeth leol, carchardai neu gyrff y GIG
  • Prosiectau cyfalaf neu brosiectau adeiladu
  • Prosiectau sy’n hybu crefydd
  • Tripiau dramor, neu weithgareddau eraill sy’n digwydd y tu allan i’r DU
  • Ymchwil neu driniaeth feddygol
  • Profi am feichiogrwydd neu gyngor, gwybodaeth neu gwnsela ar ddewisiadau beichiogrwydd
  • Gwaith codi ymwybyddiaeth, ac eithrio lle mae wedi’i dargedu at blant neu bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl
  • Bwrsarïau, llefydd noddedig, ffioedd neu gostau tebyg
  • Gwyliau lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, os o gwbl
  • Gweithgarwch gwleidyddol gan gynnwys sefydliadau pleidiau gwleidyddol neu lobïo uniongyrchol
  • Unigolion
  • Costau a drosglwyddir i gyrff eraill
  • Apeliadau cyffredinol neu gronfeydd gwaddol
  • Helpu gyda diffygion yn y gyllideb neu i ad-dalu dyledion
  • Gwaith sydd eisoes wedi digwydd – neu unrhyw gostau a gafwyd – cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad (cyllid ôl-weithredol)
  • Prosiectau na allant ddechrau o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu’r grant
  • Gwariant amhenodol

A ddylai eich sefydliad wneud cais?

Mae’n bwysig iawn eich bod yn taro golwg ar ein Canllawiau A i Y ar-lein cyn gwneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi rhag ofn i chi wneud cais am gostau nad ydym yn eu hariannu. Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau.

Mae ein Canllawiau A i Y yn cynnwys manylion ein polisïau dyrannu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer mathau penodol o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n gofyn am gyllid ar gyfer offer.

Faint ddylech chi wneud cais amdano?

  • Byddwn yn gwneud penderfyniadau cyflymach ynghylch ceisiadau am grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn, ac felly byddwch yn gallu dechrau’n gynt os byddwch yn llwyddiannus
  • Mae ein ffrwd Grantiau Prosiect yn cefnogi prosiectau am hyd at dair blynedd
  • Dim ond gan sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol y byddwn yn ystyried ceisiadau am dros £15,000 y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban. Os ydych yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau
  • Nid ydym yn rhoi grantiau o fwy na £120,000 (neu £40,000 y flwyddyn), ac mae’r rhan fwyaf o’r grantiau a ddyfernir gennym yn llai o lawer na hyn. Bob blwyddyn, rydym yn cael llawer mwy o geisiadau am gyllid nag y gallwn eu cefnogi. Mae bob amser yn anoddach i ni ariannu ceisiadau am symiau mwy
  • Os yw eich prosiect yn cefnogi grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n arbennig o agored i niwed yn uniongyrchol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am lai na £15,001 y flwyddyn
    • Yn benodol, mae hyn yn golygu gweithio gyda phlant y mae camfanteisio’n rhywiol ar blant, camfanteisio’n droseddol ar blant, neu drais ieuenctid difrifol wedi effeithio arnynt
    • Mae ein hagwedd at waith cyllido yn y meysydd hyn yn cynnwys gwneud grantiau mwy, a meithrin cysylltiadau dyfnach gyda sefydliadau darparu

Sut mae gwneud cais?

  1. Cynlluniwch eich prosiect yn fanwl. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen ein canllaw ar gynllunio eich prosiect cyn i chi wneud cais. Mae cynllunio gwael yn un o’r rhesymau cyffredin dros geisiadau aflwyddiannus.
  2. Darllenwch ein Canllawiau A i Y i helpu i sicrhau eich bod yn gwneud cais am bethau y gallwn eu cyllido yn unig.
  3. Darllenwch ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyrannu Grantiau a’n Canllawiau A i Y i wirio bod eich sefydliad yn gymwys. Os na chaiff y safonau hyn eu bodloni, ni fyddwn yn gallu cefnogi eich gwaith.
  4. Cyflwynwch eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb i ni ei hystyried yn erbyn ein blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol. Rydym yn anelu at roi gwybod i chi am ein penderfyniad am y camau nesaf o fewn pum wythnos.
  5. Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Datganiad o Ddiddordeb i’r cam nesaf, byddwn yn anfon dolen atoch i Ffurflen Gais lawn. Byddwch wedyn yn cael mynediad at y ffurflen hon drwy eich cyfrif ar-lein.

Pryd ddylech chi wneud cais?

Nid oes dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn y ffrwd Costau Prosiect, a gallwch wneud cais unrhyw bryd.
Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith sydd eisoes wedi digwydd, nac unrhyw gostau a gafwyd, cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid i chi ddechrau gwario eich grant o fewn 12 mis

Cynlluniwch ddyddiad eich cais er mwyn i chi gael penderfyniad mewn da bryd cyn bydd y gwaith yn dechrau. Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o geisiadau rhwng mis Hydref a mis Ionawr. Os byddwch yn cyflwyno ffurflen yn ystod y misoedd hyn, mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser i chi gael penderfyniad.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb?

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

  • Os na fydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn anfon e-bost atoch i egluro ein penderfyniad
  • Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn anfon dolen atoch i Ffurflen Gais ar-lein lawn
  • Ar ôl i ni anfon y ddolen hon atoch, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais lawn yn eich cyfrif ar-lein
  • Bydd gennych chi 120 diwrnod i gyflwyno eich cais llawn, o’r diwrnod y byddwn yn anfon y ddolen atoch

Efallai y byddwn yn penderfynu y byddai eich Datganiad o Ddiddordeb yn cyd-fynd yn well ag un o’n ffrydiau cyllido eraill, ac nid yr un rydych chi wedi gwneud cais amdani. Os felly, byddwn yn anfon dolen atoch i ffurflen gais ar gyfer y ffrwd sy’n cefnogi eich gwaith arfaethedig orau.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno ein ffurflen gais lawn am Gostau Prosiect?

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais lawn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i chael. Bydd y neges e-bost hon hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

  1. Yn gyntaf, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y Costau Prosiect y gwnaethoch gais amdanynt yn gymwys ar gyfer ein cyllid
  2. Byddwn wedyn yn defnyddio proses safonol i’n helpu i benderfynu pa geisiadau i’w hystyried ymhellach. Ymysg pethau eraill, bydd y broses hon yn ystyried:
    • Nifer y ceisiadau ar y pryd
    • Y gyllideb sydd ar gael ar y pryd
    • Ein blaenoriaethau rhanbarthol neu genedlaethol
  3. Efallai y byddwn yn gofyn i chi drefnu slot amser gyda ni ar gyfer galwad ffôn fer am eich gweithdrefnau diogelu
  4. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich cais neu am eich gwaith
  5. Bydd ceisiadau’n cael eu hanfon i gyfarfod gwneud penderfyniadau yn eich rhanbarth neu’ch gwlad, lle gwneir penderfyniadau ynghylch argymell cyllid
  6. Trosglwyddir argymhellion i’n hymddiriedolwyr, a gwneir penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnig grant i chi

Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r canlyniad. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am faint o amser y bydd yn ei gymryd i glywed am benderfyniad.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael penderfyniad?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd y neges e-bost yn egluro mwy am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Cewch ragor o wybodaeth yn yr adran ‘Mae gennyf grant yn barod’.

  • Mae’n bosibl y bydd amodau ychwanegol ynghlwm wrth eich grant. Mae’r rhain yn newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud neu bethau y bydd angen i chi ddweud wrthym cyn y gallwn roi’r arian y cytunwyd arno i chi
  • Rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad drwy e-bost

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd yr e-bost yn rhoi rheswm byr i chi dros ein penderfyniad, ac yn cynnwys manylion ynghylch pryd y gallwch wneud cais eto.

Gallwch hefyd gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o adborth.

English

To read this page in English, please click here.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1