Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn fwyaf aml ynghylch y broses gwneud cais am grant.
Pwy sy’n gallu ymgeisio am grant?
Rydyn ni’n ariannu mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc dan anfantais 18 oed ac iau. Rhaid i’r plant a’r bobl ifanc fyw yn y DU, ar Ynys Manaw neu ar Ynysoedd y Sianel. Rhaid i’r mudiad fod wedi’i leoli yn y DU, ar Ynys Manaw neu ar Ynysoedd y Sianel.
Rydyn ni’n disgwyl i bob mudiad sy’n gwneud cais am gyllid fodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau.
Cyn gwneud cais, darllenwch ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y hanfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni ariannu ar gael ar eu tudalennau gwe:
Ffrwd Ariannu Costau (Sefydliadol) Craidd
Big Sky – Rhaglen wahoddiad yn unig yw hon.
Camau Nesaf Pudsey – Mae’r rhaglen hon ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau
Cadw Fynd – Mae’r rhaglen hon ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau
Ydych chi’n rhoi grantiau i blant a phobl ifanc unigol?
Ydych chi’n rhoi grantiau i blant a phobl ifanc unigol?
Nid ydym yn derbyn ceisiadau i gefnogi plant unigol na theuluoedd unigol. Nid ydym chwaith yn derbyn ceisiadau gan fudiadau i ddarparu cronfeydd lles, gan gynnwys costau i brynu eitemau i’w dosbarthu i unigolion.
Mae ein Rhaglen Hanfodion Brys yn dyfarnu grantiau i blant a phobl ifanc unigol. Mae’n cefnogi teuluoedd sy’n cael anawsterau drwy gyllido eitemau penodol i ddiwallu anghenion mwyaf sylfaenol plant. Gallai enghreifftiau gynnwys gwely i gysgu ynddo, popty i ddarparu prydau poeth, neu ddillad mewn argyfwng. Nid ydym fel arfer yn derbyn ceisiadau i ddarparu cronfeydd lles.
Mae rhai o’r bobl ifanc mae ein sefydliad yn gweithio gyda nhw yn hŷn na 18 oed. Oes modd gwneud cais o hyd?
Mae rhai o’r bobl ifanc mae ein sefydliad yn gweithio gyda nhw yn hŷn na 18 oed. Oes modd gwneud cais o hyd?
Rydyn ni’n cydnabod bod rhai mudiadau sy’n gwneud cais am ein Cyllid Craidd a’n Cyllid Prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc dros 18 oed. Fodd bynnag, dim ond y costau sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phobl ifanc 18 oed ac iau y byddwn yn eu hariannu. Mae hyn hefyd yn berthnasol i geisiadau am waith gyda phobl ifanc anabl.
Os yw eich mudiad hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc dros 18 oed, rydyn ni’n disgwyl i chi ddangos sut bydd y cyllid rydych chi’n gwneud cais amdano gan BBC Plant mewn Angen yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl 18 oed ac iau yn unig.
Mae ein grant BBC Plant mewn Angen presennol yn dod i ben. Allwch chi barhau i gyllido ein gwaith?
Mae ein grant BBC Plant mewn Angen presennol yn dod i ben. Allwch chi barhau i gyllido ein gwaith?
Gall sefydliadau sydd eisoes yn cael grant gennym wneud cais i’n ffrydiau Costau Prosiect neu Gostau Craidd, cyn belled â bod disgwyl i’r cyllid presennol yn dod i ben o fewn 12 mis. Fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am gyllid arall gan BBC Plant mewn Angen os oes gennych chi grant gennym ni’n barod gyda thros 12 mis ar ôl i’w ddarparu.
Mae ein ffrydiau Craidd a’n Prosiectau yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn grantai cyfredol na blaenorol yn warant o gael cynnig rhagor o gyllid. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Os byddwch yn llwyddo â chais am grant arall, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd nes byddwn wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y dyfarniad blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei ddyfarnu.
Gweler ein polisïau ar Gyllid Parhau a Chyllid Olynol yn ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y. Gweler hefyd: Mae gennym ni grant eisoes gan BBC Plant Mewn Angen. Pryd allwn ni wneud cais am un arall?
Ar gyfer beth ydych chi’n rhoi grantiau?
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y math o gostau y byddwn yn eu hariannu ac na fyddwn yn eu hariannu yn ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y.
Ein prif raglenni ariannu yw ein Grantiau Craidd a’n Grantiau Prosiect.
Beth ydych chi'n dymuno ei weld mewn cais?
Beth ydych chi'n dymuno ei weld mewn cais?
Ar gyfer ein Cyllid Craidd a’n Cyllid Prosiect, dyma’r bobl a’r mudiadau y bydd BBC Plant mewn Angen yn eu hariannu:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
- Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
- Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maent yn ei wneud, o’r dylunio i’r cyflawni
- Mynd i’r afael â’r heriau mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u cydnerthedd
- Grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
- Awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
- Wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc
Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod chi’n bodloni ein Safonau Sylfaenol ar gyfer dyfarnu grantiau.
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cyfeirio at ein Canllawiau A-Y ar-lein cyn gwneud cais am gyllid. Gall hefyd arbed amser ac ymdrech i chi o ran gwneud cais am gostau nad ydym yn eu cyllido.
Mae ein Canllawiau A-Y yn cynnwys manylion ein polisïau dyfarnu grantiau. Bydd rhai yn berthnasol i bob cais, fel ein polisi Diogelu Plant. Mae eraill yn bwysig ar gyfer rhai mathau o geisiadau, fel gwaith sy’n ymwneud â chwnsela, neu brosiectau sy’n chwilio am gyllid ar gyfer offer.
Mae rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd ar gyfer ein rhaglenni grant eraill ar gael ar eu tudalennau gwe penodol:
Big Sky – Rhaglen wahoddiad yn unig yw hon.
Camau Nesaf Pudsey -Mae’r rhaglen hon ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau
Cadw Fynd – Mae’r rhaglen hon ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau
Faint allwn ni wneud cais amdano?
Faint allwn ni wneud cais amdano?
- Mae ein ffrydiau Costau Prosiect a Chostau Craidd yn cynorthwyo prosiectau am hyd at dair blynedd
- Nid ydym yn rhoi grantiau o fwy na £120,000 (neu £40,000 y flwyddyn), ac mae’r rhan fwyaf o’r grantiau a ddyfernir gennym yn llai o lawer na hyn
- Bob blwyddyn, rydym yn derbyn llawer mwy o geisiadau am gyllid nag y gallwn eu cefnogi. Ar hyn o bryd, gallwn ni ddim ond ariannu 1 o bob 8 cais a dderbyniwn
- Mae ceisiadau am symiau mwy bob amser yn fwy anodd i ni eu cyllido
- Bydd ceisiadau am grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn yn derbyn penderfyniad cyflymach gennym ni, ac felly byddant yn gallu dechrau gweithio’n gynt os byddant yn llwyddiannus
- Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau am dros £15,000 y flwyddyn gan fudiadau oni bai eu bod wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol Gweler rhagor o wybodaeth yn ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y ar Geisiadau am dros £15,000 y flwyddyn a Mudiadau Heb eu Cofrestru
- Os yw eich gwaith yn cefnogi grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n arbennig o agored i niwed yn uniongyrchol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am lai na £15,001 y flwyddyn
- Yn benodol, mae hyn yn golygu gweithio gyda phlant sydd wedi eu heffeithio gan gamfanteisio’n rhywiol ar blant, camfanteisio’n droseddol ar blant, neu drais ieuenctid difrifol
- Mae ein hagwedd at waith cyllido yn y meysydd hyn yn cynnwys gwneud grantiau mwy, a meithrin cysylltiadau dyfnach gyda sefydliadau darparu
Allwn ni wneud cais am gostau staffio fel cyflogau neu dâl gweithwyr sesiynol?
Allwn ni wneud cais am gostau staffio fel cyflogau neu dâl gweithwyr sesiynol?
Gallwch. Rydym yn derbyn ceisiadau am gostau staffio ar yr amod bod y rolau’n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc. Gallwch ofyn am gostau staffio yn ein ffrydiau cyllido Craidd a Phrosiect.
Wrth wneud cais am gostau staffio, meddyliwch am y pethau hyn:
- Gofynnwch am y cyflog rydych chi’n meddwl mae’r swydd yn ei haeddu, nid yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwn ni eisiau ei dalu. Rydym eisiau cyllido swyddi sy’n llwyddo, ac rydym yn disgwyl i’r cyflog fod yn unol â swyddi tebyg ar draws y sector.
- Dylid nodi’r costau ar gyfer pob swydd gyflogedig ar eich ffurflen gais. Os nad ydych chi’n gwbl sicr ynghylch y costau, dylech gynnwys eich trysorydd i wneud yn siŵr bod y rhain yn gywir
- Mae angen hysbysebu swyddi newydd yn gyhoeddus; ystyriwch a oes angen i chi gynnwys costau recriwtio fel rhan o’ch cais
- Cofiwch gynnwys costau eraill sy’n gysylltiedig â chyflogi rhywun. Gallai hyn gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn
- Cofiwch ganiatáu ar gyfer chwyddiant yn eich costau
Rydym yn cydnabod yr angen i gyflogi staff sesiynol at ddibenion darparu mathau penodol o brosiectau neu weithgareddau. Er enghraifft, gallai hyn fod yn gynlluniau chwarae tymor byr neu unwaith ac am byth yn ystod y gwyliau. Fodd bynnag, pan fo’n bosibl, credwn ei bod yn fwy tebygol o sicrhau canlyniadau da i blant os yw sefydliadau’n cynnig contractau cyfnod penodol ar gyfer prosiectau.
Pryd ddylen ni wneud cais a beth fydd yn digwydd nesaf?
Pryd ddylen ni wneud cais?
Pryd ddylen ni wneud cais?
Nid oes dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau ein ffrydiau Costau Prosiect a Chostau Craidd. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg. Ni fyddwn yn cyllido unrhyw waith sydd eisoes wedi digwydd, nac unrhyw gostau a gododd cyn y dyddiad y byddwn yn rhoi penderfyniad i chi. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid i chi ddechrau gwario eich grant o fewn 12 mis.
Cynlluniwch ddyddiad eich cais er mwyn i chi gael penderfyniad mewn da bryd cyn i’r gwaith ddechrau. Rydym yn cael nifer uchel iawn o geisiadau rhwng mis Hydref a mis Ionawr. Os byddwch chi’n cyflwyno ffurflen yn ystod y misoedd hyn, mae’n cymryd mwy o amser i gael penderfyniad.
Pa mor aml allwn ni wneud cais?
Pa mor aml allwn ni wneud cais?
Dim ond un Grant Prosiect neu un Grant Craidd y gall mudiad ei ddal ar unrhyw adeg. Yr eithriad i hyn yw y gall mudiadau ledled y Deyrnas Unedig gael un grant Prosiect ym mhob un o’r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban). Ni all mudiad gael Grant Prosiect a Grant Craidd.
Os byddwch chi’n cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ond nad ydym yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn, bydd eich llythyr penderfyniad yn egluro pa mor hir y bydd angen i chi aros cyn cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb arall. Bydd hyn o leiaf chwe mis ar ôl y penderfyniad hwn.
Rydym wedi cael grant gan BBC Plant mewn Angen yn barod. Pryd allwn ni wneud cais am un arall?
Gall sefydliadau sydd eisoes yn cael grant gennym wneud cais i’n ffrydiau Costau Prosiect neu Gostau Craidd, cyn belled â bod disgwyl i’r cyllid presennol yn dod i ben o fewn 12 mis. Fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am gyllid arall gan BBC Plant mewn Angen os oes gennych chi grant gennym ni’n barod gyda thros 12 mis ar ôl i’w ddarparu.
Mae ein ffrydiau Craidd a’n Prosiectau yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn grantai cyfredol na blaenorol yn warant o gael cynnig rhagor o gyllid. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Os byddwch yn llwyddo â chais am grant arall, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd nes byddwn wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y dyfarniad blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei gynnig.
Mae gennym ni grant eisoes gan BBC Plant Mewn Angen. Pryd allwn ni wneud cais am un arall?
Mae gennym ni grant eisoes gan BBC Plant Mewn Angen. Pryd allwn ni wneud cais am un arall?
Mae gennym eisoes Grant Bach neu Brif Grant gan BBC Plant mewn Angen.
Daeth ein rhaglenni grantiau Bach a Phrif grantiau i ben yn 2021.
- Os ydych chi ar hyn o bryd yn derbyn naill ai Grant Bach neu Brif Grant gan BBC Plant mewn Angen a fydd yn dod i ben yn ystod y 12 mis nesaf, gallwch wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd.
- Os ydych chi ar hyn o bryd yn derbyn Grant Bach a Phrif Grant gennym, gallwch wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd unwaith y bydd eich Grant Bach neu Brif Grant yn ei 12 mis diwethaf.
- Ni chewch wneud cais am Grant Prosiect na Grant Craidd os oes gennych chi ar hyn o bryd mwy na 12 mis ar ôl ar:
- Grant bach yn unig
- Prif grant yn unig,
- Grant Bach a Phrif Grant.
- Os nad oes gennych chi Grant Bach neu Brif Grant ar hyn o bryd, ond bod gennych chi fath arall o grant BBC Plant mewn Angen (e.e. We Move, YSA, Curiosity, Inspiring Futures, ac ati), gallwch wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd unrhyw bryd.
- Os oes gennych chi Grant Bach a/neu Brif Grant yn ystod y 12 mis diwethaf, a’ch bod yn llwyddiannus yn gwneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd, hwn fydd yr unig grant sydd gennych chi gyda ni pan fydd eich Grant Bach a/neu eich Prif Grant yn cyrraedd eu dyddiad gorffen.
- Ni fyddwch yn gallu gwneud cais am ail Grant Prosiect neu Grant Craidd tra byddwch eisoes gydag un yn barod – hyd yn oed os oeddech yn arfer dal Grant Bach a Phrif Grant ar yr un pryd.
- Am y rheswm hwn, dylai sefydliadau feddwl yn ofalus wrth wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd ynghylch pa fath fyddai’r ffordd orau o gefnogi eu gwaith yn y dyfodol.
- Os oes gennych chi Grant Bach neu Brif Grant yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi llwyddo i wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd, ni fydd arian ar gyfer y grant newydd yn cael ei ryddhau nes bydd y grant presennol hwnnw wedi dod i ben.
- Ni ellir defnyddio Grant Prosiect neu Grant Craidd i ariannu unrhyw weithgaredd sydd eisoes yn cael ei ariannu drwy Grant Bach neu Brif Grant i’r un mudiad. Felly, os ydych chi’n llwyddiannus am Grant Prosiect neu Grant Craidd a fydd yn cael ei ddarparu ar yr un pryd â Grant Bach neu Brif Grant presennol, ni all y grant newydd fod ar gyfer yr un gweithgaredd â’r grant presennol.
Ar hyn o bryd, gallwn ni ddim ond ariannu 1 o bob 8 cais a dderbyniwn. Mae ein ffrydiau Cyllid Prosiect a Chyllid Craidd yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn grantî presennol neu flaenorol yn warant o gael cynnig cyllid pellach. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Os byddwch yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant arall, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd hyd nes y byddwn wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y dyfarniad blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei gynnig.
Gweler hefyd ein polisïau ar Gyllid Parhau a Chyllid Olynol yn ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y.
Mae gennym eisoes grant Prosiect, Craidd neu Pudsey Next Steps gan BBC Plant mewn Angen.
Gall mudiadau sydd eisoes wedi cael grant Prosiect, Craidd neu Pudsey Next Steps gennym wneud cais i’n ffrydiau Costau Prosiect neu Gostau Craidd, cyn belled â bod y cyllid presennol ar fin dod i ben o fewn 12 mis. Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am gyllid arall gan BBC Plant mewn Angen os oes gennych chi eisoes grant gennym sydd â mwy na 12 mis ar ôl.
Ar hyn o bryd, gallwn ni ddim ond ariannu 1 o bob 8 cais a dderbyniwn. Mae ein ffrydiau Cyllid Prosiect a Chyllid Craidd yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn grantî presennol neu flaenorol yn warant o gael cynnig cyllid pellach. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’n meysydd diddordeb Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Gweler hefyd ein polisïau ar Gyllid Parhau a Chyllid Olynol yn ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y.
Mae gennym ni fath arall o grant gan BBC Plant mewn Angen yn barod.
Os nad oes gennych chi Grant Bach, Prif Grant, Grant Prosiect, Craidd neu Pudsey Next Steps gennym ar hyn o bryd, ond bod gennych chi fath arall o grant BBC Plant mewn Angen (e.e. We Move, Youth Social Action, Big Sky ac ati), gallwch wneud cais am Grant Prosiect neu Grant Craidd unrhyw bryd.
Rhaid i’r gwaith a gyflawnir drwy eich cais am Gyllid Prosiect neu Gyllid Craidd fod fel a ganlyn:
– Ar gyfer gwaith gwahanol, bydd eich grant presennol
– Gweithio gyda grŵp gwahanol o blant a phobl ifanc na’r rheini sy’n elwa o’r grant presennol
Gweler hefyd ein polisïau ar Gyllid Parhau a Chyllid Olynol yn ein Canllawiau Cymhwysedd A-Y.
Beth yw’r ffurflen Mynegi Diddordeb?
Beth yw’r ffurflen Mynegi Diddordeb?
Y cam cyntaf wrth wneud cais am Gostau Prosiect yw llenwi ffurflen Datgan Diddordeb fer ar-lein. Defnyddiwch y ffurflen Mynegi Diddordeb i ddweud ychydig mwy wrthym am eich mudiad, a’r gwaith rydych chi am i ni ei gyllido. Fe welwch y ffurflen Mynegi Diddordeb yn eich cyfrif ar-lein.
Os ydym am gefnogi’r gwaith a amlinellir yn eich ffurflen Mynegi Diddordeb, byddwn yn anfon ffurflen gais lawn atoch i’w llenwi. Bydd ein Cynlluniau Cenedlaethol a Rhanbarthol yn eich helpu i ddeall sut rydym yn blaenoriaethu penderfyniadau.
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen Mynegi Diddordeb, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi ei chael. Bydd y neges e-bost hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf:
- Os na fydd eich Ffurflen Mynegi Diddordeb yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn anfon e-bost atoch i egluro ein penderfyniad
- Os byddwn yn penderfynu bwrw ymlaen â’ch Mynegiant o Diddordeb, byddwn yn anfon dolen atoch chi at Ffurflen Gais ar-lein lawn
- Ar ôl i ni anfon y ddolen hon atoch, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais lawn yn eich cyfrif ar-lein
- Bydd gennych 120 diwrnod i gyflwyno eich cais llawn, o’r diwrnod y byddwn yn anfon y ddolen atoch
Mae’n bosibl y gwnawn ni benderfynu y byddai eich ffurflen Mynegi Diddordeb yn cyd-fynd yn well ag un o’n ffrydiau cyllido eraill, ac nid yr un rydych chi wedi gwneud cais amdano. Os felly, byddwn yn anfon dolen i ffurflen gais atoch ar gyfer y ffrwd sy’n cefnogi eich gwaith arfaethedig orau.
Beth sy’n digwydd ar ôl i ni gyflwyno ein ffurflen gais?
Beth sy’n digwydd ar ôl i ni gyflwyno ein ffurflen gais?
Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen gais lawn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi ei chael. Bydd y neges e-bost hon hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf:
- Yn gyntaf, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y costau y gwnaethoch gais amdanynt yn gymwys ar gyfer ein cyllid
- Byddwn wedyn yn defnyddio proses safonol i’n helpu i benderfynu pa geisiadau i’w hystyried ymhellach. Ymysg pethau eraill, bydd y broses hon yn ystyried:
- Nifer y ceisiadau ar hyn o bryd
- Y gyllideb gyfredol sydd ar gael
- Ein meysydd diddordeb rhanbarthol neu genedlaethol
- Mae’n bosibl y gwnawn ni ofyn i chi drefnu slot amser gyda ni ar gyfer galwad ffôn fer am eich gweithdrefnau diogelu
- Mae’n bosibl y gwnawn ni ofyn hefyd am ragor o wybodaeth am eich cais neu am eich gwaith
- Bydd ceisiadau’n cael eu hanfon i gyfarfod gwneud penderfyniadau yn eich rhanbarth neu eich gwlad, lle gwneir argymhelliad cyllido
- Trosglwyddir argymhellion i’n hymddiriedolwyr, a gwneir penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnig grant i chi
Ar ôl gwneud penderfyniad, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r canlyniad. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am faint o amser y bydd yn ei gymryd i wrando ar benderfyniad.
Beth sy’n digwydd pan wneir penderfyniad?
Beth sy’n digwydd pan wneir penderfyniad?
Cofiwch y gall Asesydd sy’n gweithio ar ein rhan ar ei liwt ei hun gysylltu â chi; nid oes gan yr Aseswyr hyn gyfeiriadau e-bost BBC Plant mewn Angen. Os nad ydych chi’n siŵr ai rhywun sy’n gweithio ar ein rhan sydd wedi cysylltu â chi, gallwch gysylltu â ni ar 0345 609 0015 neu [email protected] i wneud yn siŵr.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd y neges e-bost yn esbonio mwy am beth sy’n digwydd nesaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn yr adran ‘Mae gen i grant’.
- Bydd llythyr dyfarnu ynghlwm wrth yr e-bost. Mae hwn yn amlinellu telerau ac amodau eich grant, ac mae’n cynnwys Ffurflen Derbyn Grant
- Dylai Cadeirydd a Thrysorydd eich corff llywodraethu lofnodi a dyddio eich ffurflen
- Darllenwch eich llythyr dyfarnu’n ofalus, oherwydd mae’n bosibl y bydd amodau pellach ar eich grant. Mae’r rhain yn newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud, neu bethau y bydd angen i chi eu dweud wrthym, cyn y gallwn ddyfarnu’r cyllid y cytunwyd arno i chi
- Rhaid i chi ddechrau gwario’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwn yn anfon ein penderfyniad atoch drwy e-bost
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau hyn. Bydd yr e-bost yn rhoi rheswm byr i chi dros ein penderfyniad, ac yn cynnwys manylion ynghylch pryd gallwch chi wneud cais eto.
Gallwch hefyd gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o adborth.
Beth fydd yn digwydd os na ddyfernir ein cais?
Beth fydd yn digwydd os na ddyfernir ein cais?
Os na ddyfernir eich cais, byddwch yn cael neges e-bost yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd y neges e-bost honno’n rhoi rhai rhesymau byr pam na chafodd eich cais ei gyllido. Bydd yr e-bost hefyd yn dweud wrthych pryd gallwch chi wneud cais nesaf.
Alla i gael adborth os bydd fy nghais yn cael ei wrthod?
Alla i gael adborth os bydd fy nghais yn cael ei wrthod?
Mae hyn yn dibynnu ar i ba raddau mae eich cais wedi cael ei ddatblygu. Os bydd eich prosiect yn aflwyddiannus cyn cyrraedd y cam Mynegi Diddordeb, byddwn yn anfon e-bost atoch yn rhoi amlinelliad cryno o’r rhesymau dros hynny. Oherwydd y nifer fawr o sefydliadau sy’n cofrestru drwy’r broses hon, ni allwn roi unrhyw adborth pellach i chi ar hyn o bryd.
Os bydd eich cais yn cyrraedd y cam ffurflen lawn, byddwn yn anfon e-bost atoch gydag adborth ar eich cais. Os ydych chi’n dymuno gofyn am ragor o adborth, bydd manylion ynghylch sut mae gwneud hynny’n cael eu cynnwys yn eich llythyr penderfyniad.
Pa mor debygol ydym ni o gael grant?
Pa mor debygol ydym ni o gael grant?
Ar hyn o bryd, gallwn ni ddim ond ariannu 1 o bob 8 cais a dderbyniwn.
Pa ddogfennau ychwanegol y mae angen i mi eu hatodi i fy ffurflen gais?
Beth yw dogfen lywodraethu?
Beth yw dogfen lywodraethu?
Mae dogfen lywodraethu (a elwir weithiau’n gyfansoddiad neu’n femorandwm ac erthyglau cymdeithasu) yn ddogfen gyfreithiol sy’n darparu rheolau ar gyfer sut bydd eich mudiad yn gweithredu. Dylai roi sylw i’r canlynol:
- Beth mae’r mudiad wedi’i sefydlu i’w gyflawni (dibenion)
- Sut mae’r mudiad yn mynd ati i gyflawni ei ddibenion (pwerau)
- Sut mae’r mudiad yn cael ei reoli
- Sut gall y mudiad ddefnyddio ei incwm (cymal neu ddatganiad nid-er-elw)
- Beth sy’n digwydd os bydd y mudiad yn cau (gelwir hyn yn aml yn gymal diddymu neu glo asedau)
Dylai hefyd gynnwys manylion am y canlynol:
- Pa mor aml mae’r corff llywodraethu’n cwrdd
- Sut i benodi aelodau o’r corff llywodraethu ac am ba hyd y gallant weithredu fel aelodau o’r corff llywodraethu
- A yw aelodau’r Corff Llywodraethu yn cael eu talu a sut
Er mwyn bodloni ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau, dylai eich dogfen lywodraethu nodi:
- Bod y mudiad yn un nid-er-elw. Dylai ddangos yn glir bod yr holl incwm yn cael ei ddefnyddio i gyflawni dibenion elusennol y mudiad ac nid yw’n cael ei ddosbarthu i aelodau, cyfranddalwyr na pherchnogion.
- Nodau elusennol sy’n addas ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig
- Cymal diddymu neu gymal clo asedau (ar gyfer Cwmnïau Buddiannau Cymunedol). Mae hyn yn dangos y bydd asedau eich mudiad yn cael eu dosbarthu i fudiad nid-er-elw a enwir sydd â nodau elusennol tebyg os caiff ei gau. Ar gyfer Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, rhaid i hyn fod yn glo asedau sy’n enwi’r mudiad nid-er-elw y bydd yr arian yn cael ei roi iddo. Rhaid bod gan y mudiad hwn nodau elusennol tebyg
Beth mae angen i chi ei weld yn fy nghyfrifon?
Beth mae angen i chi ei weld yn fy nghyfrifon?
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n disgwyl ei weld ar gael yn ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau.
Os cewch eich gwahodd i wneud cais ar gyfer ein Rhaglen Big Sky, mae gwybodaeth am yr hyn rydyn ni’n disgwyl ei weld mewn cyfrifon ar gael yma.
Alla i anfon fy nogfennau ychwanegol atoch chi drwy’r post?
Alla i anfon fy nogfennau ychwanegol atoch chi drwy’r post?
Mae’n well gennym fersiynau electronig o’ch cyfrifon, er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.
Os ydych chi’n cael trafferth atodi dogfennau i ffurflen ar-lein, gallwch eu hanfon atom dros e-bost yn [email protected]. Cofiwch gynnwys enw eich sefydliad, er mwyn i ni allu cyfateb eich dogfennau i’ch ffurflen gais.
Os ydych chi’n dal i fethu anfon dogfennau atom yn electronig, ffoniwch ein desg gymorth ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected].
Rydym yn gofyn i chi gyllido rhywfaint o gostau staffio. Pa wybodaeth ychwanegol y mae angen i ni ei hanfon atoch chi?
Rydym yn gofyn i chi gyllido rhywfaint o gostau staffio. Pa wybodaeth ychwanegol y mae angen i ni ei hanfon atoch chi?
Nid oes angen rhagor o ddogfennau arnom gan ymgeiswyr sy’n gofyn i ni gyllido costau staffio.
Allwn ni anfon dogfennau ychwanegol atoch chi, fel lluniau, astudiaethau achos neu adroddiadau?
Allwn ni anfon dogfennau ychwanegol atoch chi, fel lluniau, astudiaethau achos neu adroddiadau?
Byddai’n well gennym pe na baech yn anfon rhagor o wybodaeth atom na’r hyn rydym wedi gofyn amdano. Mae hyn yn ein helpu i brosesu eich ceisiadau’n gynt.
Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw ddeunydd ychwanegol y byddwch yn ei anfon atom yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif.
Help! Rwy’n cael trafferth gyda’r system ymgeisio ar-lein.
Mae angen cymorth arnaf i lenwi ffurflen gais neu fynegi diddordeb. Ydych chi’n gallu helpu?
Mae angen cymorth arnaf i lenwi ffurflen gais neu fynegi diddordeb. Ydych chi’n gallu helpu?
Rydyn ni eisiau bod mor hygyrch a chefnogol â phosibl i’ch sefydliad. Gallai hyn olygu cyfieithu ein cais i iaith arall, neu ddarparu ffurflenni/canllawiau mewn fformatau eraill. Byddwn hefyd yn siarad â chi i helpu i egluro unrhyw gwestiwn.
Os oes angen help arnoch i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected].
Ga'i anfon copi papur o'm ffurflen gais atoch drwy'r post?
Ga'i anfon copi papur o'm ffurflen gais atoch drwy'r post?
Na, dim ond ceisiadau ar-lein y gallwn ni eu derbyn. Os oes angen help arnoch i wneud cais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected].
Rwy’n cael rhai problemau wrth lenwi’r ffurflen gais – allwch chi helpu?
Rwy’n cael rhai problemau wrth lenwi’r ffurflen gais – allwch chi helpu?
Os ydych chi’n cael problemau technegol gyda’ch ffurflen gais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2), neu anfonwch e-bost at [email protected]. Mae ein desg gymorth yn agored rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol, ranbarthol neu genedlaethol.
Sut alla i atodi dogfennau i fy ffurflen gais ar-lein?
Sut alla i atodi dogfennau i fy ffurflen gais ar-lein?
- Cadwch fersiwn electronig o’ch dogfennau ar eich cyfrifiadur yn rhywle sy’n hawdd i chi ddod o hyd iddo
- Dewiswch enw’r ddogfen berthnasol yn y cwympflwch (e.e. cyfrifon)
- Cliciwch ‘Pori’ i edrych drwy’r ffolderi ar eich cyfrifiadur, a dewis y ffeil lle mae wedi ei chadw
- Ar ôl i chi ddewis y ffeil, cliciwch ar ‘Iawn’
- Bydd llwybr y ffeil (dyma enw’r ddogfen a’r ffolder y mae’n cael ei chadw ynddi) yn ymddangos yn y blwch isod. Cliciwch ‘Llwytho i fyny’ a bydd y ddogfen yn dechrau atodi
- Pan gaiff ei lwytho i fyny, bydd y ffurflen ar-lein yn rhestru eich dogfen fel atodiad ar waelod y dudalen atodiadau
- Gwnewch hyn eto ar gyfer yr holl ddogfennau
- Cliciwch ar ‘SUBMIT’
- Os ydych chi’n cael unrhyw broblem dechnegol gyda’ch ffurflen gais, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].
Mae help ar gael i lenwi’r ffurflen gais. Sut alla i gael fersiwn hygyrch o’r ffurflen?
Mae help ar gael i lenwi’r ffurflen gais. Sut alla i gael fersiwn hygyrch o’r ffurflen?
Gallwn eich helpu i lenwi cais. Ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].
Nid yw eich system ymgeisio ar-lein yn gadael i mi gyflwyno fy ffurflen gais. Beth ddylwn i ei wneud?
Nid yw eich system ymgeisio ar-lein yn gadael i mi gyflwyno fy ffurflen gais. Beth ddylwn i ei wneud?
Dim ond os ydych chi wedi ateb yr holl gwestiynau ac wedi atodi’r dogfennau sydd eu hangen arnom y bydd modd i chi gyflwyno eich ffurflen gais.
Mae terfyn ar nifer y geiriau yn rhai o’r cwestiynau. Mae gan eraill gyfarwyddiadau penodol ar sut i ateb (er enghraifft, pan fydd yn rhaid i chi roi atebion i rifau, ni ddylech ddefnyddio atalnodi). Os nad ydych chi wedi dilyn y cyfarwyddiadau hyn, bydd saethau coch yn ymddangos i dynnu sylw at unrhyw broblem pan fyddwch chi’n ceisio cyflwyno eich ffurflen.
Ar ôl i chi fynd i’r afael â’r problemau hyn, cliciwch y botwm diweddaru ar waelod y sgrin. Dylech wedyn allu cyflwyno eich cais.
Os ydych chi’n dal i gael problemau, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].
Mae testun coch wedi ymddangos gan ddweud “gall y maes hwn ddal hyd at 255 nod”.
Mae testun coch wedi ymddangos gan ddweud “gall y maes hwn ddal hyd at 255 nod”.
Mae rhai adrannau o’r ffurflen yn cynnwys nodau, yn hytrach na geiriau. Mae’n bosibl fod gennych chi ormod o lythrennau yn eich ateb. Bydd pob llythyren, bwlch ac eitem unigol o atalnodi yn cyfrif tuag at derfyn eich nodau.
Os ydych chi’n dal i gael problemau, ffoniwch ni ar 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost at [email protected].
Allwch chi ein helpu ni gyda’n cais?
Allwch chi ein helpu ni gyda’n cais?
Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â’ch cais, ffoniwch ni ar y llinell Rhadffôn 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost i [email protected]. Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol, ranbarthol neu genedlaethol.
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych chi, ond ni allwn eich helpu i ysgrifennu eich cais.
Allwch chi wirio ein cais cyn i ni ei gyflwyno?
Allwch chi wirio ein cais cyn i ni ei gyflwyno?
Ni allwn wirio ceisiadau cyn iddynt gael eu cyflwyno. Mae’n bosibl y gall eich CGS lleol neu eich gwasanaeth cyngor am gyllid eich helpu.
Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â’ch cais, ffoniwch ni ar y linell Rhadffôn 0345 609 0015 (dewis 2) neu anfonwch e-bost i [email protected]. Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol, ranbarthol neu genedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gysylltu â nhw ar gael yma.