Canllawiau Cymhwysedd A-Y
Canllawiau Cymhwysedd
Gwybodaeth Hanfodol ar gyfer pawb sy’n gwneud cais i’n Rhaglenni Craidd, Prosiect, Pudsey Next Steps a Big Sky.
Mae BBC Plant mewn Angen yn ei gwneud yn ofynnol i bob sefydliad fodloni ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau Mae hyn yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb llawn dros gyllid, trefniadau llywodraethu a diogelu wrth gyflawni’r gwaith.
Mae’r canlynol yn rhestr yn nhrefn yr wyddor o bolisïau a chanllawiau cymhwysedd. Mae’n wybodaeth hanfodol ar gyfer pawb sy’n gwneud cais i’n Rhaglenni Craidd, Prosiect, Pudsey Next Steps a Big Sky.
Rydym eisiau sicrhau nad ydych chi’n gwastraffu amser yn gwneud cais am bethau nad ydym yn eu cyllido. Fe welwch fanylion gwerthfawr am ein disgwyliadau yma. Mae rhai’n berthnasol i bob cais – er enghraifft, diogelu. Mae rhai’n bwysig ar gyfer rhai mathau o geisiadau – fel cwnsela neu offer, er enghraifft.
Rydyn ni’n adolygu ein polisïau a’n canllawiau cymhwysedd yn rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y rhain yn ofalus cyn gwneud cais.
Cofiwch: ar hyn o bryd, gallwn ni ddim ond ariannu 1 o bob 8 cais a dderbyniwn.
Egwyddorion Allweddol:
Yn ogystal â bodloni ein meini prawf cymhwysedd a nodir yn ein Canllawiau A-Y, rydym yn disgwyl bod pob cais am grant yn adlewyrchu’r egwydd:
Canolbwyntio ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc
Canolbwyntio ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc
Disgwyliwn i’ch gwaith ganolbwyntio ar fynd i’r afael â materion difreintedd sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Rydym yn diffinio difreintedd fel:
- Salwch, trallod, cam-drin neu esgeulustod.
- Unrhyw fath o anabledd.
- Anawsterau ymddygiad neu seicolegol.
- Byw mewn tlodi neu sefyllfaoedd o amddifadedd.
Wrth wneud cais, mae angen i chi:
- Ddangos bod y mwyafrif clir o’r plant a fydd yn elwa ar y grant yn ddifreintiedig.
- Dweud wrthym am y plant a’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw.
- Disgrifio sut mae’r anfanteision y maent yn eu profi yn effeithio ar eu bywydau.
- Disgrifio sut rydych chi’n cyrraedd y plant a’r bobl ifanc difreintiedig a all elwa fwyaf ar y gwaith.
- Dweud wrthym sut byddwch yn targedu’r plant a’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd.
Cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn eich gwaith
Cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn eich gwaith
Wrth wneud cais, mae angen i chi ddangos:
- Sut rydych chi wedi ystyried barn plant a phobl ifanc wrth gynllunio’r gwaith a’r gwahaniaethau y bydd yn ei wneud yn eu bywydau
- Sut byddwch yn parhau i’w cynnwys ac ymgynghori â nhw wrth i’r gwaith fynd rhagddo
- Sut bydd plant a phobl ifanc sy’n ymwneud â rhedeg neu reoli agweddau ar y gwaith yn cael eu cefnogi
Gwyddom y gallai fod rhesymau pam y gall rhai mathau o waith gynnig ymgynghoriad cyfyngedig yn unig. Bydd angen i chi allu esbonio pam mai felly y mae pethau.
Diogelu (Gweithio gyda phlant)
Diogelu (Gweithio gyda phlant)
Mae plant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae gan bob plentyn hawl i gael ei amddiffyn rhag niwed. Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb ni i ddiogelu lles yr holl blant a phobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn ymrwymo i ymarfer sy’n eu hamddiffyn.
Mae’n rhaid i chi ddangos sut byddwch yn amddiffyn plant a phobl ifanc yn eich gofal ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu.
Bydd angen i’ch cais ddangos:
- Mae gan eich sefydliad ei Bolisi a’i weithdrefnau Diogelu Plant a Phobl Ifanc ei hun
-
- Mae’r polisi hwn yn enw eich sefydliad
- Dylai pawb sy’n rhan o’r gwaith – gan gynnwys y plant a phobl ifanc – wybod am eich polisi a’ch gweithdrefnau, a’u defnyddio yn eu gwaith o ddydd i ddydd
- Mae eich polisi yn nodi’r camau clir i’w cymryd os bydd digwyddiad neu bryder yn codi
-
- Dylai hyn gynnwys pwy i’w hysbysu a sut i gysylltu â nhw
- Mae gan eich sefydliad berson penodol sy’n gyfrifol am ddiogelu
- Mae archwiliadau cefndir priodol a rheolaidd yn cael eu cynnal
-
- Mae hyn yn berthnasol i’r holl staff, gwirfoddolwyr ac aelodau pwyllgor sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc
- Mae’r holl staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r pwyllgor yn cael hyfforddiant diogelu plant
-
- Mae hyfforddiant diogelu yn berthnasol i rolau pobl, mae’n ymwneud â pholisi eich sefydliad, ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd
- Mae eich sefydliad yn cymryd camau priodol i sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc yn eich gofal yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi
-
- Gallai hyn fod drwy wneud asesiadau risg neu drwy fynnu bod gan oruchwylwyr gymwysterau perthnasol
Mae’r mesurau hyn yn helpu i sicrhau bod y plentyn neu’r unigolyn ifanc yn eich gofal yn cael profiad da wrth gymryd rhan yn eich gwaith.
Os caiff eich cais am gyllid ei symud ymlaen i’r cam ymgeisio llawn, byddwn yn dymuno gwybod mwy am eich dull o ddiogelu.
Nid ydym ac ni allwn fod yn arbenigwyr ar ddiogelu. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r NSPCC a sefydliadau blaenllaw eraill i hyrwyddo arfer gorau o ran diogelu plant a phobl ifanc.
Mae gan wefan yr NSPCC adnoddau ar ddiogelu plant a phobl ifanc yn y sector gwirfoddol a chymunedol. Rhowch sylw arbennig i’r canllawiau canlynol:
Mae cyngor ac adnoddau ychwanegol ar ddiogelu ar gael hefyd ar wefannau NCVO, Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban (OSCR) a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon.
Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol
Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol
Nid ydym yn darparu cyllid ar gyfer gwaith y mae cyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) yn gyfrifol am eu darparu. Nid ydym yn ariannu gwaith sy’n dyblygu neu’n cymryd lle’r gweithgareddau hyn.
Gallwn ystyried ceisiadau am wasanaethau ychwanegol sydd y tu hwnt i gyfrifoldeb y wladwriaeth. Os mai dyna’r sefyllfa, byddem yn disgwyl i chi ddangos tystiolaeth glir o sut mae hwn yn wasanaeth ychwanegol.
Polisïau a Canllawiau Cymhwysedd A-Y
Adennill costau’n llawn
Adennill costau’n llawn
Grantiau Prosiect:
Ni ellir defnyddio Grantiau Prosiect BBC Plant mewn Angen i gefnogi modelau adennill costau’n llawn. Fodd bynnag, gallwn ariannu costau gorbenion penodol sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r gwaith. Gallai’r rhain gynnwys rhent, cyfleustodau neu gostau gweinyddol.
Er enghraifft, gallwn ariannu costau penodol sy’n gysylltiedig â chynnal prosiect sydd wedi’u costio ac sy’n gymesur â’r gwaith y gwneir cais amdano. Ni fyddem yn gallu ariannu costau amhenodol sydd heb gysylltiad clir â’r Prosiect, megis “10% gorbenion”.
Cofiwch fod yn rhaid i chi nodi costau unigol yn eich cyllideb
Grantiau Craidd:
Gellir gwario ein cyllid Grantiau Craidd ar weithrediadau canolog eich mudiad o ddydd i ddydd.
Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft:
• Rheoli a gweinyddu
• Adnoddau Dynol a’r gyflogres
• Treuliau swyddfa cyffredinol
• Cyfrifyddu ac archwilio
• Cyfathrebu ac estyn allan
• Monitro, gwerthuso a dysgu
• Costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio
Nid ydym yn ariannu unrhyw wariant amhenodol yn y rhaglen hon. Er enghraifft, nid ydym yn ariannu grantiau ar gyfer canran o holl gostau’r sefydliad/gorbenion.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau allu mynegi’r costau Craidd penodol y gofynnir am gyllid ar eu cyfer.
Cofiwch fod yn rhaid i chi nodi costau unigol yn eich cyllideb.
Anabledd
Anabledd
Rydym yn cydnabod y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae hwn yn nodi bod perthynas anghyfartal mewn cymdeithas, ac nad yw anghenion pobl a chanddynt nam yn cael digon o ystyriaeth yn aml. Gall hyn arwain at allgáu cymdeithasol.
O ganlyniad i’r rhwystrau sy’n wynebu plant a phobl ifanc anabl, efallai y byddant hefyd yn wynebu anfanteision eraill. Gall y rhain gynnwys tlodi, ynysu, llai o fynediad at weithgareddau hamdden a chyfeillgarwch, salwch a chyfleoedd cyfyngedig.
- Rydym am i’n cyllid roi cymorth i blant a phobl ifanc anabl mewn ffyrdd sydd yn:
- Gwella eu dewisiadau a’u cyfleoedd
- Gwella eu galluoedd
- Annog annibyniaeth
- Magu hyder a hunan-barch
- Dangos pobl ifanc ac oedolion anabl fel modelau rôl cadarnhaol
- Gwrthsefyll agweddau negyddol a rhwystrau i gymryd rhan
- Cydnabod anghenion teuluoedd a gofalwyr
Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith sy’n atgyfnerthu stereoteipiau negyddol o blant a phobl ifanc anabl. Rydym yn disgwyl i chi gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Ansicrwydd Bwyd / Banciau Bwyd
Ansicrwydd Bwyd / Banciau Bwyd
Er ein bod yn gallu ariannu bwyd fel rhan o ddarn mwy o waith (h.y. cinio i’r rhai sy’n bresennol), ni allwn ariannu pecynnau bwyd i blant a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys banciau bwyd sy’n dosbarthu bwyd a chyflenwadau eraill. Gallwn ariannu mudiadau ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â bwyd, ond rhaid i chi allu dangos y gwahaniaeth y bydd eich mudiad yn ei wneud y tu hwnt i fwydo plant a phobl ifanc.
Awdurdodau Lleo
Awdurdodau Lleo
Nid ydym yn cyllido cyrff llywodraeth leol o gwbl.
Mae hyn yn cynnwys cynghorau ar bob lefel, gan gynnwys cynghorau cymuned, cynghorau sir, cynghorau dosbarth, cynghorau plwyf, awdurdodau unedol, awdurdodau cyfun a bwrdeistrefi metropolitan.
Beichiogrwydd ac Iechyd Rhywiol
Beichiogrwydd ac Iechyd Rhywiol
Nid ydym yn ariannu’r canlynol:
- Profion beichiogrwydd, cyngor neu wybodaeth/cwnsela ynghylch dewisiadau beichiogrwydd
- Addysg Iechyd Rhywiol neu Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (ABGI) a ddarperir mewn ysgolion neu gan wasanaethau iechyd statudol. Fodd bynnag, gallwn ystyried ceisiadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth am iechyd rhywiol sy’n mynd y tu hwnt i’r ddarpariaeth statudol, lle mae grŵp targed penodol wedi’i nodi
Blynyddoedd Cynnar (gan gynnwys Canolfannau Plant)
Blynyddoedd Cynnar (gan gynnwys Canolfannau Plant)
I wneud cais am waith sy’n ymwneud â phlant ifanc, mae angen i chi ddangos ei fod y tu allan i ddarpariaeth statudol genedlaethol a/neu leol.
Hefyd, bydd rhaid i chi ddangos sut mae’r gwaith er budd plant dan anfantais yn uniongyrchol, yn hytrach na’u rhieni.
Gellir ystyried ceisiadau gan gyrff a mudiadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau mewn canolfannau plant awdurdodau lleol. Rhaid i’r partner gwirfoddol sy’n gwneud cais fod yn brif sefydliad ar gyfer y gwaith.
(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)
Bwrsarïau a Llefydd Noddedig
Bwrsarïau a Llefydd Noddedig
Nid ydym yn ystyried ceisiadau i ariannu:
- Bwrsarïau
- Nawdd neu gymhorthdal ar gyfer gweithgareddau codi tâl nad yw plant a phobl ifanc dan anfantais yn gallu eu fforddio
Os ydych yn codi ffioedd am eich gwaith, darllenwch ein polisi Ffioedd.
Bysiau mini
Bysiau mini
Nid ydym yn ariannu prynu cerbydau o unrhyw fath.
(Gweler hefyd: Teithio a Thrafnidiaeth)
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Camfanteisio’n Droseddol ar Blant, Trais Ieuenctid Difrifol
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Camfanteisio’n Droseddol ar Blant, Trais Ieuenctid Difrifol
Os yw eich gwaith yn cefnogi grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n arbennig o agored i niwed yn uniongyrchol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am lai na £15,001 y flwyddyn.
- Yn benodol, mae hyn yn golygu gweithio gyda phlant y mae camfanteisio’n rhywiol ar blant, camfanteisio’n droseddol ar blant, neu drais ieuenctid difrifol wedi effeithio arnynt
- Mae ein hagwedd at waith cyllido yn y meysydd hyn yn cynnwys gwneud grantiau mwy, a meithrin cysylltiadau dyfnach gyda sefydliadau darparu
Carchardai
Carchardai
Nid ydym yn ariannu darpariaeth statudol, gan gynnwys carchardai.
Byddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithio mewn carchardai neu mewn partneriaeth â nhw.
Rhaid bod cytundeb partneriaeth clir yn ei le, cytundeb sy’n cynnwys cyfrifoldebau diogelu.
Rhaid bod gan fudiad sy’n gweithio mewn partneriaeth â charchar (neu o fewn carchar):
- Polisïau a gweithdrefnau ariannol, diogelu a llywodraethu yn ei enw ei hun
- Cyfansoddiad ar wahân i’r Carchar ac mae ganddo ei gorff llywodraethu a’i ddogfen lywodraethu ei hun
- Staff sy’n cael eu cyflogi a’u rheoli gan y mudiad sy’n gwneud cais yn hytrach na’r carchar
(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol a Gwaith Partneriaeth)
Cefnogaeth i Rieni
Cefnogaeth i Rieni
Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau am waith sy’n cefnogi rhieni, neu sy’n cynnig hyfforddiant sgiliau magu plant, ar yr amod y bydd o fudd uniongyrchol i fywydau plant a phobl ifanc.
Bydd angen darparu tystiolaeth glir o’r canlyniadau hyn.
Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol
Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol
Fel pob mudiad sy’n gwneud cais, rhaid i glybiau chwaraeon amatur cymunedol fodloni ein Safonau Sylfaenol ar gyfer dyfarnu grantiau. Bydd angen i glybiau gael Polisi Diogelu clir a chadarn yn enw eu mudiad lleol eu hunain. Mae’n rhaid i hyn gynnwys camau clir i’w cymryd os bydd digwyddiad neu bryder yn codi yn ymwneud â phlentyn, gan gynnwys pwy i roi gwybod iddynt yn lleol a sut i gysylltu â nhw. Nid ydym yn derbyn polisïau sydd yn enw mudiad arall, er enghraifft sefydliad partner, sefydliad rhiant neu sefydliad cysylltiedig. Os ydych chi’n gwneud cais fel clwb chwaraeon amatur cymunedol, mae hyn yn golygu nad ydym yn derbyn polisïau ar gyfer mudiadau fel y Gymdeithas Bêl-droed neu’r Gymdeithas Athletau Gaelaidd.
Bydd y bobl a’r mudiadau y byddwn ni’n eu hariannu’n gwneud y canlynol:
- Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
- Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
- Mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc, meithrin eu sgiliau a’u gwytnwch, eu grymuso ac ymestyn eu dewisiadau o ran eu bywydau
- Awyddus i barhau i ddysgu am eu gwaith fel bod eu gallu i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn parhau i wella
Codi Ymwybyddiaeth a Gwaith Addysgol sy’n Seiliedig ar Faterion
Codi Ymwybyddiaeth a Gwaith Addysgol sy’n Seiliedig ar Faterion
Nid ydym yn ariannu mentrau codi ymwybyddiaeth yn gyffredinol, na gwaith addysgol sy’n seiliedig ar faterion lle nad yw’r grŵp targed wedi’i nodi’n benodol. Mae hyn yn berthnasol i waith sydd wedi’i anelu at boblogaeth gyffredinol o blant a phobl ifanc.
Cyn i ni allu ystyried gweithgaredd arall yn y maes hwn, mae angen i chi ddangos ei fod yn cael ei dargedu’n benodol at:
- blant a phobl ifanc sydd eisoes dan anfantais oherwydd y mater, neu
- blant a phobl ifanc sydd mewn risg benodol o fod dan anfantais o’i herwydd
Gallai enghreifftiau gynnwys gwaith sy’n canolbwyntio ar faterion fel cam-drin rhywiol, trais domestig, neu ddefnyddio alcohol/cyffuriau.
Costau Craidd (Sefydliadol)
Costau Craidd (Sefydliadol)
Mae ein ffrwd gyllido Costau Craidd yn cefnogi gwariant sefydliadol a gweinyddol hanfodol. Dyma’r prif gostau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal eich sefydliad.
Gellir gwario cyllid Costau Craidd ar weithrediadau canolog eich mudiad o ddydd i ddydd. Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft:
- Rheoli a gweinyddu
- Adnoddau Dynol a’r gyflogres
- Costau swyddfa cyffredinol
- Cyfrifyddiaeth ac archwilio
- Cyfathrebu a gwaith maes
- Monitro, gwerthuso a dysgu
- Costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio
Mae ein ffrwd gyllido Costau Craidd ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Rydym yn ceisio gwneud penderfyniadau yn gyflymach ar gyfer grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.
Ewch i’n tudalen Ffrwd Gyllido Costau Craidd i gael rhagor o fanylion.
(Gweler hefyd: Costau Prosiect)
Costau Prosiect
Costau Prosiect
Mae ein ffrwd gyllido Costau Prosiect yn cefnogi nodau darn penodol o waith ac yn cefnogi’r broses o’i gyflawni. Bydd y gwaith hwn fel arfer am gyfnod cyfyngedig, ac yn seiliedig ar set benodol o weithgareddau.
Mae Costau Prosiect ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Rydym yn ceisio gwneud penderfyniadau yn gyflymach ar gyfer grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.
Ewch i’n tudalen ffrwd gyllido Costau Prosiect i gael rhagor o fanylion.
(Gweler hefyd: Costau Craidd)
Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
Gallwn ystyried ceisiadau gan Gwmnïau Buddiannau Cymunedol cofrestredig sy’n bodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau. Mae hyn yn cynnwys:
- Cwmni sydd wedi cofrestru fel Cwmni Cyfyngedig drwy Warant (CLG). Os ydych chi’n Gwmni Cyfyngedig drwy Gyfranddaliadau neu wedi cofrestru fel Cwmni Cyfyngedig Preifat, ni allwn eich ariannu
- Corff llywodraethu (e.e. Cyfarwyddwyr) gydag o leiaf dri aelod. Dylai o leiaf un aelod fod yn annibynnol. Mae ‘annibynnol’ yn golygu aelodau o’r corff llywodraethu sydd ddim yn perthyn i’w gilydd nac yn byw gyda’i gilydd
- Pan fydd Cyfarwyddwyr yn cael eu talu am wasanaethau i’r Cwmni Buddiannau Cymunedol, rhaid nodi hyn yn glir yn y Ddogfen Lywodraethu a bod hynny’n briodol. Ni fyddem yn disgwyl bod Cyfarwyddwyr yn cael eu talu am eu rôl ar y Corff Llywodraethu
- Cael cymal ‘clo asedau’ priodol yn y Ddogfen Lywodraethu. Mae hyn yn dangos y bydd asedau eich sefydliad yn cael eu dosbarthu i fudiad nid-er-elw a enwir sydd â nodau elusennol tebyg os bydd yn cael ei gau
- Darparu dogfen cyfrifon wedi’i llofnodi sy’n bodloni ein gofynion (ni allwn dderbyn cyfrifon micro) ac sy’n dangos bod gan y sefydliad arian yn y coffrau. Mae hyn yn golygu bod gwerth eich asedau cyfredol yn fwy na gwerth eich rhwymedigaethau cyfredol
Cwnsela a gwaith therapiwtig
Cwnsela a gwaith therapiwtig
Rydym yn diffinio cwnsela fel ymyrraeth therapiwtig sy’n darparu ‘cymorth ac arweiniad proffesiynol wrth ddatrys problemau personol neu seicolegol.’
Mae hyn yn cynnwys pethau fel therapi grŵp, therapi chwarae, therapi drama a therapi celf, i enwi dim ond rhai.
Disgwyliwn i bob sefydliad sy’n cynnig ymyriadau therapiwtig neu gwnsela ffurfiol a phroffesiynol wneud y canlynol:
- Cyflogi cwnselwyr proffesiynol cymwysedig gyda
-
- phrofiad o weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc
-
- mynediad at oruchwyliaeth glinigol briodol
-
- cofnodion gweithredol o ddatblygiad proffesiynol parhaus
-
- aelodaeth o gorff proffesiynol (ee Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain)
- Darparu cwnsela hygyrch mewn lleoliadau preifat ond diogel priodol (ar gyfer y cleientiaid a’r cwnselwyr)
- Cael ei ystyried fel gwasanaeth nad yw’n peri stigma yn y gymuned
- Gweithio o fewn y ddeddfwriaeth a’r canllawiau cyfredol
- Sicrhau cyfrinachedd o fewn cyfyngiadau moesegol a diogelu arferol
- Dangos hyblygrwydd o ran anghenion mynediad ac amrywiaeth lleol
- Gweithio ar y cyd â gwasanaethau ac asiantaethau eraill, gan gynnal cyfrinachedd priodol yr un pryd
- Bod yn aelod o gorff proffesiynol (fel Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain)
- Cadw at fframwaith moesegol a phroses gwyno sefydledig
- Cyflogi cwnselwyr agos-atoch gyda sgiliau gwrando da, i feithrin perthnasoedd diogel, llawn ymddiriedaeth
Rhaid i wasanaethau sy’n cael eu darparu gan gydweithwyr nad ydynt yn gwbl gymwys, gael eu goruchwylio gan staff profiadol a chymwys. Mae’n rhaid cael systemau ar waith i sicrhau diogelwch cleientiaid, gweithwyr, a’r gwasanaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, trowch at Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).
Sylwch, ni fyddwn yn ariannu cwnselwyr cyffredinol ar gyfer ysgol gyfan. Byddem yn disgwyl i unrhyw gwnselydd weithio gyda grŵp targed penodol.
Cyflyrau Meddygol
Cyflyrau Meddygol
Nid ydym yn ariannu triniaeth nac ymchwil feddygol.
Nid ydym chwaith yn ariannu cymhorthion nac offer meddygol ar gyfer ysbyty.
(Gweler hefyd: Ysbytai a Sefydliadau’r GIG, Plant Unigol a Offer)
Cyfrifiaduron a'r Rhyngrwyd
Cyfrifiaduron a'r Rhyngrwyd
Dylai pob sefydliad ddangos diwylliant cryf o gefnogi diogelwch ar-lein a chydnerthedd digidol plant a phobl ifanc. Dylai eich Polisi Diogelu Plant ymdrin â sut rydych chi’n sicrhau bod gweithgareddau staff a phlant ar-lein yn diogel ac yn gyfrifol.
Rhaid i bolisïau fod yn briodol i oedran, ac yn berthnasol i weithgarwch y sefydliad. Dylai gynnwys tystiolaeth o ddulliau rheoli effeithiol a chefnogaeth ar gyfer yr amgylchedd digidol, gan gynnwys:
- Cefnogi a grymuso pobl ifanc i reoli eu bywydau ar-lein yn fwy effeithiol
- Cefnogi a datblygu gwytnwch digidol pobl ifanc mewn ffyrdd sy’n briodol i’w hoedran
- Diweddariadau diweddar perthnasol i Bolisïau, gweithdrefnau, hyfforddiant a Chod Ymddygiad Diogelu craidd
- Dull unedig o ymdrin â’r byd go iawn a’r byd rhithwir y bydd plant, staff a gwirfoddolwyr yn cymryd rhan ynddo
- Rheolaethau preifatrwydd addas ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio technoleg ryngweithiol
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch adnoddau Diogelwch Ar-lein yr NSPCC.
Mae Thinkuknow hefyd yn darparu rhaglen addysg ar-lein sy’n benodol ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc. Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan CEOP (Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein).
I gael rhagor o adnoddau i helpu pobl ifanc i reoli eu bywydau ar-lein eu hunain, rydym yn argymell adnodd y BBC i blant, BBC Own It.
Cylchoedd chwarae a chynlluniau chwarae
Cylchoedd chwarae a chynlluniau chwarae
Bydd angen i’r rhan fwyaf o gynlluniau chwarae a chylchoedd chwarae ar gyfer plant o dan wyth oed fod wedi cofrestru, oni bai fod y gyfraith yn nodi nad oes yn rhaid iddynt wneud hynny.
Ni fyddwn yn ariannu gwaith cylchoedd chwarae a grwpiau chwarae os oes gofyn iddynt gofrestru a’u bod heb wneud hynny.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
- Ofsted (yn Lloegr)
- Care Inspectorate (yn yr Alban)
- Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol (yng Nghymru)
- Estyn (yng Nghymru)
- eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol (yng Ngogledd Iwerddon)
Cyllid Olynol
Cyllid Olynol
Gall mudiadau dderbyn grantiau olynol am hyd at gyfanswm o 9 mlynedd.
Ystyr “olynol” yw 9 mlynedd o gyllid gyda dim mwy na 12 mis o fwlch rhwng pob grant. Pan fydd mudiad wedi cael 9 mlynedd o gyllid yn olynol, ni fydd yn gallu ailymgeisio i BBC Plant mewn Angen am 3 blynedd.
Gweler hefyd ein polisi ar Gyllid Parhau.
Cyllid Parhau
Cyllid Parhau
Gall mudiadau sydd eisoes wedi cael grant gennym wneud cais i’n ffrydiau Costau Prosiect neu Gostau Craidd, cyn belled â bod y cyllid presennol ar fin dod i ben o fewn 12 mis. Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am gyllid arall gan BBC Plant mewn Angen os oes gennych chi eisoes grant gennym sydd â mwy na 12 mis ar ôl.
Ar hyn o bryd, gallwn ni ddim ond ariannu 1 o bob 8 cais a dderbyniwn. Mae ein ffrydiau Cyllid Prosiect a Chyllid Craidd yn cefnogi gwaith am hyd at dair blynedd. Nid yw bod yn dderbynnydd grant cyfredol na blaenorol yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig rhagor o gyllid. Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant ei hun ac yn unol â’n meysydd diddordeb cenedlaethol a rhanbarthol.
Os ydych chi’n cyflwyno cais llwyddiannus am grant newydd er mwyn parhau â’r gwaith rydych chi’n ei wneud gyda’ch grant presennol, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw arian newydd nes ein bod wedi cymeradwyo eich adroddiad terfynol ar gyfer y grant blaenorol. Bydd angen i chi ddechrau gwario’r grant newydd o fewn 12 mis i’r dyddiad y caiff ei ddyfarnu. Gweler hefyd ein polisi ar Gyllid Olynol.
Cymorth Cyfreithiol
Cymorth Cyfreithiol
Nid ydym yn ystyried cyllid llawn ar gyfer rolau sy’n gwneud gwaith achos os yw’r gwaith hwnnw’n denu unrhyw gymorth cyfreithiol.
Wrth wneud cais am rolau o’r fath, dangoswch unrhyw gyllid cymorth cyfreithiol a gafwyd mewn cysylltiad â gwaith achos y flwyddyn flaenorol.
Ar gyfer blynyddoedd dau a thri ceisiadau o’r fath, bydd angen i chi nodi:
- Faint o gymorth cyfreithiol byddwch yn ei gael o bosibl
- Faint o gyfraniad i’r rôl maen nhw’n gofyn amdano gennym ni
Darpariaeth Un Rhywedd
Darpariaeth Un Rhywedd
Mae BBC Plant mewn Angen yn credu y dylai pob Plentyn a Pherson Ifanc gael mynediad at yr un cyfleoedd; fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn deall y gall fod yn fuddiol weithiau i gynnal prosiectau sydd dim ond yn caniatáu i rywedd penodol gymryd rhan ar unrhyw adeg benodol, boed hynny am resymau crefyddol, diwylliannol neu ymarferol.
Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid i gefnogi darpariaeth un rhywedd, byddwn yn disgwyl i chi ddangos y canlynol yn glir:
- Bod rheswm clir pam mai dim ond i un rhywedd y mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnig
- Lle bo hynny’n briodol/yn bosibl, cynigir darpariaeth arall ar gyfer unrhyw grwpiau sydd wedi’u heithrio
- Nid yw gweithgareddau’n cael eu rhannu ar sail tybiaethau ynghylch yr hyn fydd yn/ddim yn apelio at bob rhywedd
Digartrefedd
Digartrefedd
O ganlyniad i gyfrifoldebau statudol eang yn y maes hwn, dim ond mewn achosion eithriadol iawn y byddwn yn ystyried ariannu llety i blant neu deuluoedd digartref.
Mae’n bosibl y byddwn yn cefnogi gweithgareddau mewn canolfannau llety os ydynt yn mynd i’r afael â phroblemau ac anghenion y plant yn uniongyrchol.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ariannu llety lloches i bobl ifanc sydd wedi rhedeg i ffwrdd.
(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)
Dogfen Lywodraethu neu Gyfansoddiad
Dogfen Lywodraethu neu Gyfansoddiad
Mae dogfen lywodraethu (a elwir weithiau’n gyfansoddiad neu’n femorandwm ac erthyglau cymdeithasu) yn ddogfen gyfreithiol sy’n darparu rheolau ar gyfer sut bydd eich mudiad yn gweithredu. Dylai roi sylw i’r canlynol:
- Beth mae’r mudiad wedi’i sefydlu i’w gyflawni (dibenion)
- Sut mae’r mudiad yn mynd ati i gyflawni ei ddibenion (pwerau)
- Sut mae’r mudiad yn cael ei reoli
- Sut gall y mudiad ddefnyddio ei incwm (cymal neu ddatganiad nid-er-elw)
- Beth sy’n digwydd os bydd y mudiad yn cau (gelwir hyn yn aml yn gymal diddymu neu glo asedau)
Dylai hefyd gynnwys manylion am y canlynol:
- Pa mor aml mae’r corff llywodraethu’n cwrdd
- Sut i benodi aelodau o’r corff llywodraethu ac am ba hyd y gallant weithredu fel aelodau o’r corff llywodraethu
- A yw aelodau’r Corff Llywodraethu yn cael eu talu a sut
Er mwyn bodloni ein safonau gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau, dylai eich dogfen lywodraethu nodi:
- Bod y mudiad yn un nid-er-elw. Dylai ddangos yn glir bod yr holl incwm yn cael ei ddefnyddio i gyflawni dibenion elusennol y mudiad ac nid yw’n cael ei ddosbarthu i aelodau, cyfranddalwyr na pherchnogion
- Nodau elusennol addas nad ydynt yn eithrio’n benodol gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig
- Os bydd eich sefydliad yn cau, byddai unrhyw arian yn cael ei drosglwyddo i sefydliad nid-er-elw arall sydd â nodau elusennol. Ar gyfer Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, rhaid i hyn fod yn glo asedau sy’n enwi’r mudiad nid-er-elw y bydd yr arian yn cael ei roi iddo. Rhaid bod gan y mudiad hwn nodau elusennol tebyg
Ffioedd
Ffioedd
Gallwn ariannu mudiadau sy’n codi ffioedd i fynychu eu gweithgareddau.
Fodd bynnag, disgwyliwn weld datganiad neu bolisi clir ar hepgor ffioedd. Dylai hyn ddangos y canlynol:
- Mae’r rheini nad ydynt yn gallu fforddio talu ffioedd yn cael eu hystyried ac yn derbyn gofal
- Mae’r rheini nad ydynt yn gallu parhau i dalu ffioedd yn dal i gael cymorth
- Mae’r gymuned ehangach yn ymwybodol y gellir hepgor ffioedd mewn rhai amgylchiadau
- Rydych yn rhagweithiol wrth rannu eich agwedd tuag at ffioedd a hepgor ffioedd
- Rydym yn gweithio i gefnogi sefydliadau sy’n gwella canlyniadau ar gyfer plant difreintiedig. Mae sicrhau bod cyn lleied â phosibl o blant yn cael eu heithrio rhag ymuno â gweithgareddau yn ganolog i’n proses o wneud penderfyniadau
Ni fyddwn yn ariannu’r gost o dalu ffioedd yn llawn neu’n rhannol.
(Gweler hefyd: Bwrsarïau a Llefydd Noddedig)
Gofal Plant (gan gynnwys meithrinfeydd) a Chymorth i Rieni
Gofal Plant (gan gynnwys meithrinfeydd) a Chymorth i Rieni
Rydym yn ystyried gwaith sy’n cynnwys elfen gofal plant, gan gynnwys meithrinfeydd, ond dim ond os ydynt yn canolbwyntio ar ddarparu profiad datblygu o ansawdd uchel i’r plant eu hunain.
Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau am waith sy’n cefnogi rhieni, neu sy’n cynnig hyfforddiant sgiliau magu plant, ar yr amod y bydd o fudd uniongyrchol i fywydau plant a phobl ifanc. Bydd angen darparu tystiolaeth glir iawn o’r canlyniadau hyn.
Gofal Seibiant
Gofal Seibiant
Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer gwaith sy’n cynnig gofal seibiant i deulu plentyn neu berson ifanc anabl.
Gan fod darpariaeth graidd gofal seibiant yn gyfrifoldeb statudol, bydd angen i chi ddangos yn glir nad oes modd ateb y galw drwy ddarpariaeth statudol.
(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)
Gwahardd o’r Ysgol
Gwahardd o’r Ysgol
Rhaid i geisiadau i weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi’u gwahardd o ysgolion ddangos y canlynol:
- Nid yw ein cyllid yn cymryd lle nac yn gorgyffwrdd cyllid statudol (rydym yn disgwyl i hyn ddilyn y plentyn)
- Bydd y gwaith yn ychwanegol at gyfrifoldebau statudol
- Mae’r gwaith yn darparu ansawdd profiad sydd y tu allan i ofynion darpariaeth statudol
(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)
Gwaith Mentora a Chyfeillio
Gwaith Mentora a Chyfeillio
Rydym yn diffinio mentora neu gyfeillio fel ‘perthynas wirfoddol, bwrpasol a buddiol i’r naill ochr a’r llall, lle mae unigolyn yn rhoi amser i gefnogi un arall i’w alluogi i wneud newidiadau yn ei fywyd’.
Rhaid i hyn ddigwydd o fewn trefniant ffurfiol a strwythuredig. Weithiau gall eich gwaith gynnwys staff a gwirfoddolwyr sy’n rhoi cyngor mwy anffurfiol i blant a phobl ifanc. Nid ydym yn diffinio hyn fel mentora na chyfeillio mewn synnwyr ffurfiol.
Os ydych chi’n darparu gwasanaethau gwaith mentora a chyfeillio, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau ychwanegol i chi am hyn os cewch eich gwahodd i gyflwyno ffurflen gais lawn.
Rydym yn disgwyl i bob sefydliad sy’n gwneud cais am waith mentora a chyfeillio ddangos y canlynol:
- Cysylltiad clir rhwng eich nodau a’r budd i gleientiaid/gwirfoddolwyr unigol
- Proses ar gyfer atgyfeirio/gwirio cymhwysedd cleientiaid, sy’n seiliedig ar arfer gorau cyfle cyfartal
- Proses recriwtio a dethol gadarn ar gyfer gwirfoddolwyr
- Prosesau cadarn ar gyfer sgrinio gwirfoddolwyr, ac ar gyfer diogelu cleientiaid a gwirfoddolwyr, gan gynnwys
-
- gwiriadau, geirdaon, asesiadau risg, hyfforddiant, yswiriant, datganiadau cyfrinachedd a ffurflenni caniatâd priodol
-
- hyfforddiant cychwynnol a sesiynau paratoi ar gyfer gwirfoddolwyr, yn ogystal â chefnogaeth barhaus
- Proses glir a chyson ar gyfer paru cleientiaid â gwirfoddolwyr gan gynnwys
-
- prosesau wedi’u dogfennu ar gyfer monitro cynnydd perthnasau
-
- trefniadau ar waith i ddelio â pherthnasau sy’n profi’n anaddas
I gael rhagor o wybodaeth, trowch at NCVO – Gwasanaethau Mentora a Chyfeillio.
Os yw eich sefydliad yn recriwtio Cydlynydd Gwirfoddolwyr, efallai y gofynnir i chi ddarparu copi o ddisgrifiad y rôl.
Gwaith Partneriaeth
Gwaith Partneriaeth
Gallwn ariannu grwpiau sy’n gwneud gwaith mewn partneriaeth â mudiad arall. Rhaid i’r mudiad arweiniol wneud y cais, a bydd yn atebol am y canlynol:
- Cyflawni’r gwaith fel y cytunwyd
- Diogelu
- Rheoli’r grant ac adrodd yn ôl
- Rheoli unrhyw weithwyr sy’n cael eu hariannu fel rhan o’r prosiect
- Gwneud yn siŵr bod y gwaith yn cyflawni ei ganlyniadau a nodwyd
Rhaid i’r partner arweiniol ddiwallu ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau.
Dylai cytundeb partneriaeth fod ar gael cyn i chi wneud cais, a gofynnir i chi grynhoi hyn yn eich cais.
(Gweler hefyd: Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau; Defnyddio partneriaid cyflenwi eraill).
Gwaith yn ystod Oriau Ysgol
Gwaith yn ystod Oriau Ysgol
Byddwn yn ystyried ceisiadau gan fudiadau nid-er-elw sy’n gweithio mewn ysgolion neu mewn partneriaeth â nhw.
Disgwyliwn i waith ddigwydd cyn neu ar ôl ysgol, yn ystod amser cinio neu yn ystod y gwyliau. Ni fyddem yn disgwyl bod gofyn tynnu pobl ifanc allan o’r dosbarth i fod yn bresennol.
Ni fyddwn yn ariannu gwaith sy’n digwydd yn ystod oriau ysgol oni bai bod y grŵp targed:
- Yn cael ei effeithio gan Gam-drin Domestig
- Yn cael ei effeithio gan Drais Rhywiol
- Yn Ofalwyr Ifanc
- Yn ddifrifol sâl (er enghraifft, gwaith sy’n digwydd mewn ysbytai neu hosbisau)
- Yn blant sy’n dibynnu ar gludiant ysgol sy’n golygu nad ydynt yn gallu mynychu gweithgareddau y tu allan i’r ysgol (er enghraifft, plant anabl neu’r rheini sy’n byw mewn cymunedau gwledig anghysbell)
- Yn byw mewn Llety Lloches
Os ydych chi’n darparu yn ystod oriau ysgol, mae’n rhaid i chi ddangos:
- Sail resymegol glir dros pam eich bod yn darparu yn ystod y cyfnod hwn
- Bod yr amseru’n seiliedig ar anghenion penodol y plant a’r bobl ifanc
(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)
Gweithgaredd gwleidyddol
Gweithgaredd gwleidyddol
Er ein bod yn cydnabod bod dylanwadu ar newid cymdeithasol yn bwysig, nid ydym yn ariannu gweithgarwch, ymgyrchu na lobïo uniongyrchol pleidiau gwleidyddol.
Gwyliau a Gweithgareddau Preswyl
Gwyliau a Gweithgareddau Preswyl
Dim ond gwyliau, tripiau a theithiau a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion y plant a’r bobl ifanc dan sylw y byddwn yn eu hariannu. Ni fyddwn yn ariannu gwyliau i deuluoedd lle nad yw’r prosiect yn chwarae llawer o ran, neu ddim rhan o gwbl.
- Mae’n bosibl y byddwn yn ariannu gwyliau a gweithgareddau preswyl am hyd at dair blynedd, naill ai fel y prif gost neu fel un rhan o’ch gwaith
- Rhaid i sefydliadau sy’n gofyn am y math hwn o gyllid allu dangos tystiolaeth bod eu polisi a’u harferion diogelu’n cael eu defnyddio’n rheolaidd
- Dylai derbynnydd y grant ar gyfer y math hwn o waith allu arsylwi a thracio ei ganlyniadau
- Mae’n hanfodol cael mynediad uniongyrchol at y plant a’r bobl ifanc a pherthynas waith sefydledig â nhw
- Ni fyddwn yn ariannu ceisiadau i anfon grwpiau, gan gynnwys teuluoedd, ar dripiau lle nad yw gweithgarwch yn cael ei gyflawni gan sefydliad derbynnydd y grant
- Ni fyddwn yn rhoi grantiau’n uniongyrchol i ganolfannau preswyl sy’n dymuno sicrhau cyllid i blant a phobl ifanc fynd i’w canolfannau Rydym yn cyllido tripiau a gwyliau yn y DU yn unig.
- Rydym yn cyllido tripiau a gwyliau yn y DU yn unig. Yr un eithriad yw ar gyfer gwaith yng Ngogledd Iwerddon, lle mae modd ystyried tripiau neu wyliau i Weriniaeth Iwerddon
Hyfforddiant Staff
Hyfforddiant Staff
Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer hyfforddiant staff sy’n gallu dangos cysylltiad clir â chanlyniadau gwell i blant a phobl ifanc.
Ni fyddwn ni’n cyllido hyfforddiant sy’n golygu gwella datblygiad proffesiynol unigolyn yn bennaf.
Is-gontractio
Is-gontractio
Weithiau, efallai y byddwch yn dewis defnyddio neu weithio gyda sefydliad neu unigolyn arall i gyflawni rhan o’ch gwaith. Gallai hyn fod ar sail is-gontractio; er enghraifft, dod â cherddor i mewn i gyflwyno gweithdai fel rhan o grŵp ieuenctid.
Rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn ddull rhesymol a synhwyrol o weithredu. Fodd bynnag, cofiwch fod yn rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais am gyllid wneud y canlynol:
- Cael perthynas uniongyrchol â’r plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gwaith
- Ysgwyddo’r cyfrifoldeb llawn dros fodloni’r Safonau Gofynnol o ran cyllid, llywodraethu a diogelu wrth gyflawni
- Sicrhau bod unrhyw un sy’n cael ei is-gontractio yn ystod gwaith a ariennir yn deall ac yn dilyn polisïau ac arferion eich sefydliad bob amser
(Gweler hefyd: Gwaith Partneriaeth)
Llochesi Menywod
Llochesi Menywod
Rydyn ni’n ystyried ceisiadau gan lochesi menywod ledled y DU. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn y gallwn ei ariannu rhwng Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Rhaid i geisiadau am weithwyr lloches yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr allu dangos y bydd y cyllid yn cefnogi gwaith sydd:
- Yn mynd y tu hwnt i ofal plant, ac yn cael effaith ystyrlon ar fywydau’r plant a’r bobl ifanc dan sylw
- Yn cefnogi ymyriadau tymor hwy i fynd i’r afael â’r trawma y gallai plant fod wedi’i brofi, neu dorri’r cylch cam-drin
- Ddim yn cael ei ariannu, ac ni fyddai’n cael ei ariannu gan ffynonellau statudol
Yn yr Alban, ni allwn ariannu gweithwyr ymroddedig sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda Phlant a Phobl Ifanc mewn llochesi, gan fod hon yn ddyletswydd statudol.
Mae hyn yn berthnasol i weithwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn lloches, neu yn y gymuned, ar ran lloches.
Mudiadau Crefyddol a Ffydd
Mudiadau Crefyddol a Ffydd
Mae’n byddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau ffydd, ond nid ydym yn ariannu hyrwyddo crefydd.
Mae hyn yn cynnwys:
- Unrhyw weithgaredd sy’n golygu trosi rhywun i grefydd (proselytio)
- Unrhyw gyllid ar gyfer staff y mae eu disgrifiad swydd a/neu fanyleb y person yn gofyn am ffydd benodol
- Unrhyw gyllid ar gyfer treuliau gwirfoddolwyr neu staff cysylltiedig (fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr) lle mae’r disgrifiad o’r rôl yn gofyn am ffydd benodol
Mudiadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU
Mudiadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU
Nid yw BBC Plant mewn Angen yn ariannu mudiadau nad ydynt wedi’u lleoli yn y DU, ar Ynys Manaw nac ar Ynysoedd y Sianel.
Mudiadau sy’n Gwisgo Iwnifform
Mudiadau sy’n Gwisgo Iwnifform
Fel pob mudiad sy’n gwneud cais, rhaid i fudiadau sy’n gwisgo iwnifform fodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau. Bydd angen i grwpiau gael Polisi Diogelu clir a chadarn yn enw eu mudiad lleol eu hunain. Mae’n rhaid i hyn gynnwys camau clir i’w cymryd os bydd digwyddiad neu bryder yn codi yn ymwneud â phlentyn, gan gynnwys pwy i roi gwybod iddynt yn lleol a sut i gysylltu â nhw. Nid ydym yn derbyn polisïau sydd yn enw mudiad arall, er enghraifft sefydliad partner, sefydliad rhiant neu sefydliad cysylltiedig. Os ydych chi’n gwneud cais fel grŵp lleol, mae hyn yn golygu nad ydym yn derbyn polisïau ar gyfer mudiadau fel Cymdeithas y Sgowtiaid neu Girlguiding.
Bydd y bobl a’r mudiadau y byddwn ni’n eu hariannu’n gwneud y canlynol:
- Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng
- Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu
- Mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc, meithrin eu sgiliau a’u gwytnwch, eu grymuso ac ymestyn eu dewisiadau o ran eu bywydau
- Awyddus i barhau i ddysgu am eu gwaith fel bod eu gallu i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn parhau i wella
Offer
Offer
Ni fyddwn yn ariannu offer sefydlog (e.e. boeleri, goleuadau, offer synhwyraidd sefydlog).
Ni fyddwn yn ariannu offer symudol sy’n dod i gyfanswm o dros £20,000 (ee offer chwarae/synhwyraidd).
Nid ydym yn ariannu offer y bydd corff statudol, fel ysgol neu ysbyty, yn ei ddefnyddio – neu a fydd yn dod i feddiant corff statudol o’r fath.
Wrth wneud cais am gyllid ar gyfer offer, rhaid i chi ddangos:
- Sut bydd plant a phobl ifanc yn elwa’n uniongyrchol fel y prif ddefnyddwyr
- Pam mae angen yr offer hwn arnoch ar gyfer eich gwaith
- Eich bod wedi ystyried materion tymor hwy fel yswiriant, storio diogel, gwydnwch a chynnal a chadw
- Sut rydych chi wedi sicrhau’r gwerth gorau am arian
- Pam mae prynu yn fwy priodol na llogi neu fenthyca
- Pwy fydd yn cael mynediad pan na fydd yn cael ei ddefnyddio i gyflawni Gwaith
- Rydym yn disgwyl y bydd yn parhau I fod yn eiddo’r grŵp, yn hytrach nag unigolyn
Nid ydym yn ariannu offer arbenigol ar gyfer un plentyn neu berson ifanc unigol. Mae hyn yn cynnwys offer meddygol.
Plant Unigol
Plant Unigol
Nid ydym yn derbyn ceisiadau i gefnogi plant unigol na theuluoedd unigol. Nid ydym chwaith yn derbyn ceisiadau gan fudiadau i ddarparu cronfeydd lles, gan gynnwys costau i brynu eitemau i’w dosbarthu i unigolion.
Mae ein Rhaglen Hanfodion Brys yn rhoi grantiau i blant a phobl ifanc unigol. Mae’n cefnogi teuluoedd sy’n cael anawsterau drwy ariannu eitemau penodol i ddiwallu anghenion mwyaf sylfaenol plant.
Gallai enghreifftiau gynnwys gwely i gysgu ynddo, popty i goginio prydau poeth, neu ddillad mewn argyfwng. Nid ydym fel arfer yn derbyn ceisiadau i ddarparu cyllid lles.
Prosiectau Cyfalaf ac Adeiladu
Prosiectau Cyfalaf ac Adeiladu
Nid ydym yn ariannu prosiectau cyfalaf na phrosiectau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys adeiladau newydd, yn ogystal ag adnewyddu neu addasu adeiladau a lleoliadau presennol. Mae’r rhain hefyd yn cynnwys gwelliannau i feysydd chwarae, caeau chwaraeon a thirlunio gerddi.
Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau
Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau
Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod arian BBC Plant mewn Angen yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd iawn. Mae ein Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau yn ein helpu ni i wneud yn siŵr bod sefydliadau’n gadarn, yn barod i gyflawni gwaith ac yn gallu cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.
Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais i BBC Plant mewn Angen fodloni ein Safonau Gofynnol er mwyn cael ei ystyried ar gyfer cyllid. Rydym ni’n disgwyl i bob sefydliad ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am y rhain wrth ddarparu eu gwaith. Darllenwch y rhestr lawn yn ofalus cyn i chi ystyried gwneud cais, a chysylltwch â ni os oes unrhyw beth nad ydych yn siŵr ohono.
Mae ein Safonau Gofynnol yn ymdrin â thri phrif faes: llywodraethu, cyllid a diogelu. Byddwn yn gofyn i bob sefydliad ddarparu amrywiol ddogfennau allweddol i helpu i ddangos eich bod yn bodloni pob un ohonynt.
Darllenwch ein Safonau Gofynnol ar gyfer ein Rhaglenni Prosiect a Chraidd yma.
Darllenwch ein Safonau Gofynnol ar gyfer ein Rhaglen Big Sky yma.
Sefydliadau Cenedlaethol
Sefydliadau Cenedlaethol
Mae sefydliadau cenedlaethol yn darparu gwasanaethau i Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon gyfan (neu unrhyw gyfuniad o’r rhain).
Rydym yn trin canghennau annibynnol sefydliadau cenedlaethol fel sefydliadau ar wahân. I fod yn gymwys i fod yn annibynnol, rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol i ganghennau:
- Mae ganddynt eu cyfansoddiad a’u cyfrifon ariannol eu hunain
- Bod ganddynt eu corff llywodraethu eu hunain
- Maent yn gyfan gwbl gyfrifol am eu cyllid eu hunain
- Bod ganddynt Bolisi Diogelu clir a chadarn yn enw eu mudiad lleol eu hunain. Mae’n rhaid i hyn gynnwys camau clir i’w cymryd os bydd digwyddiad neu bryder yn codi yn ymwneud â phlentyn, gan gynnwys pwy i roi gwybod iddynt yn lleol a sut i gysylltu â nhw. Nid ydym yn derbyn polisïau sydd yn enw mudiad arall, er enghraifft sefydliad partner, sefydliad rhiant neu sefydliad cysylltiedig
- Mae’r staff yn cael eu cyflogi a’u rheoli gan y gangen yn hytrach na’r sefydliad cenedlaethol
Os bodlonir y meini prawf uchod, gallwn dderbyn ceisiadau gan bob cangen fel a ganlyn:
Ar gyfer Grantiau Prosiect
- Gall sefydliadau ledled y DU gael un grant prosiect ym mhob un o’r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon)
- Mae ein rheolau arferol o fewn pob gwlad yn berthnasol i ganghennau lleol sefydliad mwy o faint
Ar gyfer Grantiau Craidd
- Dim ond un grant Costau Craidd y gall sefydliad ei gael ar unrhyw adeg, ni waeth ym mha le yn y DU y mae’n cyflawni ei waith
- Ni all sefydliad gael grant Craidd os oes ganddo grant Prosiect mewn unrhyw un o’r Gwledydd
Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO) a Sefydliad Corfforedig Elusennol yr Alban (SCIO)
Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO) a Sefydliad Corfforedig Elusennol yr Alban (SCIO)
Mae Sefydliadau Corfforedig Elusennol yn gymwys i wneud cais a dylent fod wedi cofrestru â’r Comisiwn Elusennau (neu’r OSCR yn yr Alban), yn yr un modd ag elusennau.
Mae’r dogfennau sydd angen i chi eu darparu ym mhob gwlad yr un fath ag sy’n ofynnol i elusennau.
Staff Sesiynol
Staff Sesiynol
Rydym yn cydnabod yr angen i ymgymryd â staff sesiynol at ddibenion cyflwyno ffurfiau penodol o waith neu weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallai hyn fod yn weithgareddau tymor byr neu untro, e.e. cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau.
Os yw’n bosibl, credwn ei fod yn fwy tebygol o gynhyrchu canlyniadau da i blant os yw sefydliadau’n cynnig contractau tymor penodol ar gyfer y mathau hyn o waith.
Strwythur y Sefydliad – ceisiadau gwerth dros £15,000 y flwyddyn
Strwythur y Sefydliad – ceisiadau gwerth dros £15,000 y flwyddyn
Rydym yn dymuno ariannu sefydliadau sydd â hanes cadarn o lywodraethu.
- Dim ond gan sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol y byddwn yn ystyried ceisiadau am fwy na £15,000 y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys
- Sefydliadau Corfforedig Elusennol, gan gynnwys sefydliadau corfforedig elusennol yn yr Alban. Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr neu Gofrestr Elusennau’r Alban (OSCR)
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CIC) cyfyngedig drwy warant sydd wedi’u cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Ni allwn dderbyn Cwmnïau Buddiannau Cymunedol sydd wedi’u cofrestru fel Cwmnïau Cyfyngedig Preifat neu Gyfyngedig drwy Gyfranddaliadau
- Cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd â chymal yn eu dogfen lywodraethu sy’n atal dosbarthu elw. Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau
- Cymdeithasau Tai
- Elusennau Cofrestredig yn cynnwys y rheini sydd wedi’u cofrestru â Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon a Chofrestr Elusennau’r Alban
- Sefydliadau Crefyddol a mudiadau ffydd sydd wedi’u cofrestru gyda rheoleiddiwr
- Ysgolion Arbennig, sy’n darparu ar gyfer plant ag anableddau neu anawsterau dysgu nad oes modd darparu ar eu cyfer mewn lleoliad prif ffrwd
Os yw eich mudiad yn un o’r uchod, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn bodloni ein polisi Trosiant
(Gweler hefyd: Strwythur y Sefydliad – Mudiadau Gwirfoddol Heb eu Cofrestru)
Strwythur y Sefydliad – Mudiadau Gwirfoddol Heb eu Cofrestru
Strwythur y Sefydliad – Mudiadau Gwirfoddol Heb eu Cofrestru
Byddwn yn ystyried ceisiadau gan fudiadau gwirfoddol sydd heb eu cofrestru ar gyfer £15,000 neu lai y flwyddyn.
Byddem yn disgwyl i’r mudiadau hyn fodloni ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau.
(Gweler hefyd: Strwythur y Sefydliad – ceisiadau gwerth dros £15,000 y flwyddyn a Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Camfanteisio’n Droseddol ar Blant, Trais Ieuenctid Difrifo)
Talu Aelodau'r Corff Llywodraethu
Talu Aelodau'r Corff Llywodraethu
Os ydych chi’n talu aelodau o’ch corff llywodraethu am wasanaethau y tu allan i’r rôl honno (fel ymgynghorydd neu aelod staff sesiynol, er enghraifft) mae’n rhaid i chi gael y canlynol:
- Cytundeb ysgrifenedig sy’n nodi’r hyn y gellir talu i’r aelod hwnnw ei wneud, pa mor aml y gellir ei dalu, a faint
- Polisi gwrthdaro buddiannau sy’n nodi sut bydd penderfyniadau ynghylch taliadau i unigolyn yn cael eu rheoli gan y corff llywodraethu
Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr, rhaid i’r uchod fod yn Nogfen Lywodraethu eich sefydliad (neu mewn dogfen arall y cytunwyd arni gan y Comisiwn Elusennau).
Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru yn yr Alban, rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:
- Nid oes dim yn eich Dogfen Lywodraethu sy’n dweud na allwch dalu aelod o’ch corff llywodraethu
- Mae llai na hanner ymddiriedolwyr yr elusen yn cael eu talu drwy’r elusen
- Mae cytundeb ysgrifenedig rhwng yr elusen a’r ymddiriedolwr yn datgan yr uchafswm sydd i’w dalu
- Mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi cymeradwyo’r cytundeb
Os ydych chi’n elusen sydd wedi’i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:
- Nid oes dim yn eich Dogfen Lywodraethu sy’n dweud na allwch dalu aelod o’ch corff llywodraethu
- Mae llai na hanner ymddiriedolwyr yr elusen yn cael eu talu drwy’r elusen
- Mae cytundeb ysgrifenedig rhwng yr elusen a’r ymddiriedolwr yn datgan yr uchafswm sydd i’w dalu
- Mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi cymeradwyo’r cytundeb
- Rhaid i’r ymddiriedolwr sy’n cael ei dalu beidio â chymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau ynghylch gwneud y cytundeb, pa mor dderbyniol yw’r gwasanaeth a ddarperir, na gosod y pris
Os ydych yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, rhaid nodi hyn yn glir yn eich dogfen lywodraethu. Dyma un o’n Safonau Gofynnol ar gyfer dyfarnu grantiau.
Teithio a Thrafnidiaeth
Teithio a Thrafnidiaeth
Rydym yn deall bod trafnidiaeth yn rhan hanfodol o sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan a chael eu cynnwys mewn llawer o brosiectau a mudiadau sy’n cael eu hariannu. Gallwn dal am logi tacsis, bysiau mini neu fysiau, a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau a gwaith prosiect, yn ogystal â chostau tanwydd, yswiriant neu gynnal a chadw cerbydau sy’n eiddo i fudiadau sy’n cael eu hariannu, lle bo hynny’n gymesur â chostau cyffredinol y gwaith. Rydym yn disgwyl y bydd gan brosiectau bolisïau a gweithdrefnau priodol i reoli unrhyw risgiau sy’n berthnasol i’r elfen hon o’u gwaith, a bod ganddynt y trwyddedau, y dogfennau a’r yswiriant priodol.
Yn anffodus, ni allwn ariannu pàs bws na thocynnau tymor ar gyfer plant a phobl ifanc unigol.
Rydym yn cydnabod y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar y plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw ac rydym yn annog pob sefydliad sy’n cael ei ariannu i ystyried ffyrdd o leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Treuliau Gwirfoddolwyr
Treuliau Gwirfoddolwyr
Yn gyfreithlon, dim ond treuliau gwirfoddolwyr ar gyfer gwariant sydd eisoes wedi digwydd y cewch chi eu talu. Gallai enghreifftiau gynnwys rhoi ad-daliad am docyn bws, neu gost petrol, sydd wedi cael ei dalu ac y mae derbynneb ar gael ar ei gyfer.
Ni ellir talu treuliau ar ffurf lwfans, nac fel rhan o ffi sefydlog am wirfoddoli. Ystyrir hyn fel arfer fel tâl, sy’n ddarostyngedig i Yswiriant Gwladol a threth.
I gael rhagor o wybodaeth, trowch at NCVO Volunteering, Gwirfoddoli Cymru, Volunteer Scotland, neu Volunteer Now (Gogledd Iwerddon).
Trosiant
Trosiant
Rydym yn ceisio blaenoriaethu mudiadau lleol, llai eu maint. O ganlyniad, ar gyfer ein Grantiau Craidd, ni fyddwn yn ariannu mudiadau â throsiant o fwy na £1m yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf.
Ar gyfer Grantiau Prosiect, rydym yn deall, mewn amgylchiadau penodol, y gall mudiadau mwy fod yn y sefyllfa orau i gyflawni gwaith i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Os oedd trosiant eich mudiad dros £2m yn y flwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf, gallwch wneud cais am Grant Prosiect dim ond os ydych chi’n:
- Hosbis
- Lloches
- Cyflawni gwaith sy’n cyd-fynd yn dda â’n meysydd diddordeb thematig a’n hardaloedd daearyddol a’ch bod yn gallu dangos pam mai eich mudiad chi sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni’r gwaith
Os ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion uchod, rhaid i chi gael sgwrs â’ch tîm lleol a all eich cynghori a ddylech chi wneud cais ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â’ch tîm lleol ar gael yma.
Ysbytai a Sefydliadau’r GIG
Ysbytai a Sefydliadau’r GIG
Nid ydym yn ariannu darpariaeth statudol, gan gynnwys ysbytai a Sefydliadau’r GIG.
Gallwn dderbyn ceisiadau gan fudiadau sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysbytai a gwasanaethau eraill y GIG. Rhaid bod cytundeb partneriaeth clir yn ei le. Rhaid i’r cytundeb gynnwys diogelu.Gweler hefyd ein polisi ar bartneriaethau.
Rydym yn derbyn ceisiadau gan Elusennau Ysbytai os oes gan y mudiad sy’n gwneud cais am gyllid:
- Polisïau a gweithdrefnau ariannol, diogelu a llywodraethu yn ei enw ei hun
- Cyfansoddiad ar wahân i’r Ysbyty ac mae ganddo ei gorff llywodraethu a’i ddogfen lywodraethu ei hun
- Staff sy’n cael eu cyflogi a’u rheoli gan y mudiad sy’n gwneud cais yn hytrach na’r ysbyty
Nid ydym yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau iechyd statudol. Mae hyn yn cynnwys cyrff gofal sylfaenol neu eilaidd y GIG, ysbytai, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Byrddau Iechyd a Llesiant, a sefydliadau cyfatebol (ee, Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Byrddau GIG ac Ymddiriedolaethau Iechyd).
(Gweler hefyd: Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)
Ysgolion ac Ysgolion Arbennig
Ysgolion ac Ysgolion Arbennig
Nid ydym yn ariannu ysgolion, academïau, prifysgolion, unedau cyfeirio disgyblion na sefydliadau addysgol statudol.
Byddwn yn ystyried ceisiadau gan fudiadau nid-er-elw sy’n gweithio mewn ysgolion neu mewn partneriaeth â nhw.
Gallwn hefyd ariannu sefydliadau addysgol sydd wedi cofrestru fel Ysgol Arbennig. Mae Ysgolion Arbennig yn darparu ar gyfer plant ag anableddau neu anawsterau dysgu nad oes modd darparu ar eu cyfer mewn lleoliad prif ffrwd
Gallwn ariannu Ysgolion Arbennig os ydynt yn gallu dangos eu bod:
- Yn elusen gofrestredig
- Yn diwallu ein Safonau Gofynnol ar gyfer Dyfarnu Grantiau
- Sut mae’r costau y gofynnir amdanynt y tu hwnt i gyfrifoldeb statudol a thu hwnt i ddarpariaeth graidd yr ysgol
- Bodloni ein polisi ar drosiant
- Bodloni ein polisi ar waith yn ystod oriau ysgol
Gydag Ysgolion Arbennig, ni allwn ariannu:
- Costau craidd – Nid yw Ysgolion Arbennig yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Grant Craidd
- Gwaith cyfalaf neu adeiladu, megis gwneud gwelliannau i ystafelloedd synhwyraidd
- Offer y tu allan i’n polisi offer
(Gweler hefyd: Gwaith yn ystod Oriau Ysgol, Trosiant, Offer, Prosiectau Cyfalaf ac Adeiladu, Dyblygu, cymryd lle neu orgyffwrdd â gwasanaethau statudol)