
Gwnewch Gais am Grant
Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.
O ganlyniad, ni fydd BBC Plant mewn Angen yn gallu derbyn ceisiadau newydd am Ddatganiadau o Ddiddordeb ar ôl 15 Ebrill 2025 nes byddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, erbyn diwedd mis Medi 2025.
Bydd eich cyfrif ar-lein presennol (a elwir hefyd yn borth derbynnydd grant) yn cau ar 25 Gorffennaf 2025. Byddwn yn lansio ein porth derbynnydd grant newydd erbyn diwedd mis Medi 2025.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Os ydych chi’n gwneud cais neu’n derbyn grant ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin.
Dilynwch y tri cham syml isod i wneud cais am arian gennym:
-
1
Darllen
am ein prosesau, cymhwysedd a'n strategaeth dyrannu grantiau.
-
2
Dewis
pa grant rydych yn dymuno gwneud cais amdano.
-
3
Gwneud cais
gan ddilyn ein canllawiau manwl, isod.
Darllen
Yn aml, mae gennym sawl rhaglen gyllid ar agor ar unrhyw adeg. Cyn i chi wneud cais, mae’n bwysig eich bod yn dewis yr un sy’n iawn i chi ac i’ch sefydliad. Cliciwch ar y botymau isod i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni cyllid sydd ar agor ar hyn o bryd.
Dewis
Yn aml, mae gennym sawl rhaglen gyllid ar agor ar unrhyw adeg. Cyn i chi wneud cais, mae’n bwysig eich bod yn dewis yr un sy’n iawn i chi ac i’ch sefydliad. Cliciwch ar y botymau isod i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni cyllid sydd ar agor ar hyn o bryd.
Gwneud cais
Mae llawer o wybodaeth am ein polisïau a’n cyllid ar ein gwefan, yn ogystal â’r cwestiynau mwyaf cyffredin. Cliciwch isod i gael gafael ar yr wybodaeth a fydd, yn ein barn ni, yn eich helpu fwyaf gyda’ch cais.
I wneud cais, ewch naill ai i’n tudalennau rhaglen Grantiau Prosiect neu Grantiau Craidd
Ein Strategaeth Dyrannu Grantiau 2022-2025
Yn ystod hydref 2024, fe wnaethom gytuno i ymestyn y strategaeth i 2026. I ddarllen mwy, cliciwch yma.
Yn BBC Plant mewn Angen, mae plant a phobl ifanc wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Ar ôl digwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi datblygu uchelgais elusennol a strategaeth dyrannu grantiau newydd. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ein hegwyddorion canlynol:
- Rhannu pŵer gyda phlant a phobl ifanc
- Gweithredu mewn dull hyblyg
- Defnyddio ein llais i feithrin ymwybyddiaeth ac empathi ynghylch materion
- Meithrin partneriaethau i ddod â chymunedau a buddsoddwyr at ei gilydd
Fel rhan o hyn, rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau sylweddol i’n model dyrannu grantiau:
- Byddwn yn parhau i gynnig cyllid sy’n seiliedig ar brosiectau, yn yr un modd â’r gorffennol.
- Byddwn yn cynnig cyllid ar gyfer costau craidd (sefydliadol) fel ffrwd grantiau ar wahân.
- Yn ystod gwanwyn 2023, byddwn yn lansio ffrwd gyllido ar gyfer sefydliadau llai sy’n dod i’r amlwg. Mae’r ffrwd hon wedi’i hanelu at sefydliadau a allai fod angen mwy o gefnogaeth i gael gafael ar ein cyllid.
Dim ond ar gyfer un o’r ffrydiau hyn y bydd sefydliadau’n gallu gwneud cais bob blwyddyn. Dylai eich sefydliad ddewis pa ffrwd sydd fwyaf addas ar gyfer eich gwaith a byddwn yn darparu gwybodaeth fanylach amdanynt dros y misoedd nesaf. Byddwn hefyd yn rhoi rhagor o fanylion am ein blaenoriaethau cyllido ar lefel leol a rhanbarthol.
I ddarllen mwy am ein Strategaeth Grantiau newydd ar gyfer 2022-2025, cliciwch ar un o’r dolenni isod. Yno, cewch weld ein strategaeth grantiau newydd, yn ogystal â fersiwn a luniwyd gan blant a phobl ifanc. Mae’r rhain yn tynnu sylw at ein hegwyddorion, ein dylanwad a’n model cyllido.