Beth yw’r meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig i ni ar lefel leol?
Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.
O ganlyniad, ni fydd BBC Plant mewn Angen yn gallu derbyn ceisiadau newydd am Ddatganiadau o Ddiddordeb ar ôl 15 Ebrill 2025 nes byddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, erbyn diwedd mis Medi 2025.
Bydd eich cyfrif ar-lein presennol (a elwir hefyd yn borth derbynnydd grant) yn cau ar 25 Gorffennaf 2025. Byddwn yn lansio ein porth derbynnydd grant newydd erbyn diwedd mis Medi 2025.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Os ydych chi’n gwneud cais neu’n derbyn grant ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin.
Mae BBC Plant mewn Angen yn gweithio ledled y DU gyda thimau dyfarnu grantiau lleol, gan ddefnyddio gwaith ymchwil sy’n berthnasol i’r ardal leol a thrafod gyda’r sector.
Rydym yn ariannwr eang iawn ac yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi prosiectau sy’n cyrraedd plant a phobl ifanc difreintiedig sydd ddim yn cael eu cynrychioli’n gryf drwy ein cyllid.
Mae meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig yn ein helpu i sicrhau portffolio cynhwysfawr a chynhwysol o grantiau, gan gynrychioli amrywiaeth cymunedau ac anghenion ledled y DU.
Gellir disgrifio meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol fel ardaloedd sydd â lefelau uchel o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, wedi’u mapio yn erbyn BBC Plant mewn Angen a buddsoddiad arall yn yr ardal honno.
Mae meysydd sydd o ddiddordeb thematig yn deillio o’n gwaith ymchwil, ein buddsoddiad presennol a’n gwybodaeth am y seilwaith ar lefel leol.
Ni fwriedir i ddiddordeb daearyddol na thematig fod yn rhwystr i gyrff sy’n gwneud cais i BBC Plant mewn Angen.
Mae meysydd o ddiddordeb yn rhan o gynlluniau gweithredu lleol, yn sail i’n trafodaethau gyda’r sector, ac yn ein helpu i adnabod problemau a rhwystrau i fynediad ar lefel leol.
Rydym yn awyddus i gyrraedd plant a phobl ifanc sydd ddim yn cael eu cynrychioli’n deg yn ein portffolio ar lefel leol.
Mae’r cyd-destun cyllido yn newid, ac mae’r sector yn gweithredu mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym. Rydym yn monitro ac yn profi’r meysydd sydd o ddiddordeb i ni’n rheolaidd, a byddwn yn addasu er mwyn ymateb i’r amgylchedd sy’n newid, gan ddefnyddio gwaith dadansoddi a thrafodaethau gyda’r sector.
Sut rydym yn adnabod y meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig?
-
- Rydym yn edrych ar ble mae’r prosiectau rydym yn eu hariannu ar hyn o bryd yn cyflawni
- Rydym yn edrych ar y rhwystrau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu
- Rydym yn gwrando ac yn gweithredu ar leisiau amrywiol plant a phobl ifanc
- Rydym yn gwrando ar gyrff yn y sector sy’n dweud wrthym am anghenion presennol plant a phobl ifanc a’r rhai sy’n dod i’r amlwg
- Rydym yn gwrando ar brofiadau bywyd ac ymarfer
- Rydym yn edrych ar y cyd-destun cyllido ehangach, ar bolisïau’r llywodraeth ac ar ymchwil leol
- Rydym yn ystyried beth sy’n cyd-fynd orau â’n strategaeth dyrannu grantiau
- Rydym yn cydnabod bod darlun cymhleth o amrywiadau rhanbarthol ar draws y pedair gwlad, gan gynnwys amrywiadau ar lefel ward, a bod anghenion mewn ardaloedd sydd fel arall i bob golwg yn cael eu gwasanaethu’n dda.
Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon?
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas gyda’r rheini sy’n derbyn grantiau, ymgeiswyr a chyllidwyr eraill.
Rydym am fod yn fwy tryloyw drwy siarad yn allanol am y meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol a thematig i ni, gan eu bod yn rhan annatod o gynlluniau gweithredu lleol.
Er y gallai cais fod yn berthnasol i feysydd sydd o ddiddordeb daearyddol neu thematig, nid yw hyn yn golygu y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu’n awtomatig i’r ymgeisydd hwnnw.
Rydym yn ystyried sawl peth wrth ddyrannu cyllid, gan gynnwys:
-
- Tystiolaeth o’r angen am y cyllid
- Y gwahaniaeth y gallai’r gwaith ei wneud i blant a phobl ifanc
- Tystiolaeth bod y corff mewn sefyllfa dda i gyflawni’r prosiect
- Tystiolaeth o gynnwys plant a phobl ifanc wrth siapio’r prosiect
- Tystiolaeth o waith cynllunio prosiect da
- Beth sy’n cyd-fynd orau â’r rhaglen gyllido
- Ffocws cryf ar blant yn y cais
Dylai ceisiadau ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau sefydliadol, a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn lleol ac ar lefel y DU, wedi’u hategu gan wybodaeth leol a gwaith y Tîm Mewnwelediad.
CYMRU
Cymru
Cymru
Rydym yn cydnabod natur groestoriadol a chymhleth y materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc. Isod mae ein meysydd thematig a daearyddol presennol o ddiddordeb yng Nghymru.
Meysydd sydd o ddiddordeb thematig:
Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb thematig i ni ar hyn o bryd yng Nghymru yn cynnwys prosiectau a mudiadau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc:
-
- Yn y system cyfiawnder troseddol
- Sy’n byw mewn ardaloedd lle mae arwahanrwydd daearyddol yn arwain at heriau ychwanegol wrth gysylltu â gwasanaethau a chymorth. Mae enghreifftiau o’r heriau hyn yn cynnwys pellter corfforol, trafnidiaeth, a chysylltedd digidol.
Meysydd sydd o ddiddordeb daearyddol:
Prosiectau a mudiadau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn siroedd:
-
- Caerffili
-
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy