Skip to main content

Your web browser is not fully supported by BBC Children in Need, so parts of the website may not function correctly.

Grantiau

Gwnewch Gais am Grant

Diweddariad Pwysig am Ddyrannu Grantiau

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella ein systemau a’n prosesau, mae BBC Plant mewn Angen yn symud i system newydd i ddyrannu grantiau. Bydd y newid hwn yn digwydd drwy gydol 2025 a byddwn yn lansio ein system newydd erbyn diwedd mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhywfaint o darfu ar ein rhaglenni grantiau.

O ganlyniad, ni fydd BBC Plant mewn Angen yn gallu derbyn ceisiadau newydd am Ddatganiadau o Ddiddordeb ar ôl 15 Ebrill 2025 nes byddwn yn lansio ein system newydd i ddyfarnu grantiau, erbyn diwedd mis Medi 2025.

Bydd eich cyfrif ar-lein presennol (a elwir hefyd yn borth derbynnydd grant) yn cau ar 25 Gorffennaf 2025. Byddwn yn lansio ein porth derbynnydd grant newydd erbyn diwedd mis Medi 2025.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod y newid hwn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein holl ymgeiswyr a’r rhai sy’n derbyn grantiau. Os ydych chi’n gwneud cais neu’n derbyn grant ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Pontio i System Rhoi Grantiau Newydd Cwestiynau Cyffredin.

Pwy ydyn ni

Ni yw’r prif noddwr annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yn y DU.

Rydyn ni’n credu bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu’r cyfle i ffynnu a bod y gorau y gallan nhw fod. Drwy ein gwaith dyrannu grantiau a’n gwaith ehangach, ein nod yw creu newid parhaol a chadarnhaol ledled y DU ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen fwyaf.

Bydd y bobl a’r sefydliadau rydyn ni’n eu hariannu yn:

  • Gweithio yng nghalon eu cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng.
  • Rhoi plant a phobl ifanc wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud, o ddylunio i ddarparu.
  • Mynd i’r afael â’r heriau y mae’r plant a’r bobl ifanc yn eu hwynebu. Byddant yn meithrin eu sgiliau a’u gwytnwch, yn eu grymuso ac yn ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd.
  • Awyddus i barhau i ddysgu am eu gwaith fel bod eu gallu i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn parhau i wella.

Cysylltu â’r tîm grantiau

Os oes gennych gwestiwn yn ymwneud â’n rhaglenni Grantiau, ac nad yw’r ateb yn ein hadran canllawiau Grant, cysylltwch â ni.

addbankCN0891 Icons for Resources - No Background calendarCN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background chevron-down chevron-lchevron-rchevron-upcommentcross>CN0891 Icons for Resources - No Background detect-locationdocumentdownloadCN0891 Icons for Resources - No Background emailembedexportfavouritefilterhelphomeinfoiphone iplayer liveCN0891 Icons for Resources - No Background more-horizontalmore-verticalphonepingitpostCN0891 Icons for Resources - No Background quote-end quote-open searchsettingsshareshowcase-threads social-facebook social-instagram social-linkedin CN0891 Icons for Resources - No Background social-pinterest social-twitter social-youtube sounds CN0891 Icons for Resources - No Background CN0891 Icons for Resources - No Background ticktimeCN0891 Icons for Resources - No Background puzzle-shelfAsset 1