Mae BBC Plant mewn Angen yn credu y dylai pob plentyn gael cyfle i ffynnu a bod y gorau y gallan nhw fod.
Dim ond gyda’ch cefnogaeth chi y gallwn ni ysgafnhau’r baich ar gannoedd ar filoedd o blant pan fydd ein hangen ni arnynt fwyaf.
Her Anferth Aled
Bydd Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru, yn gwisgo ei esgidiau cerdded ac yn ymgymryd â’i her fwyaf eto i BBC Plant mewn Angen.
Dros 7 diwrnod, bydd yn cerdded 135 milltir heriol o Dreffynnon i Aberdaron.
Ei lwybr fydd Taith Pererin Gogledd Cymru, drwy gaeau, dros fynyddoedd ac ar hyd llwybrau creigiog yr arfordir.
Bydd yn dechrau’r her ddydd Sadwrn 9 Tachwedd ac yn gorffen ar ddiwrnod BBC Plant mewn Angen, 15 Tachwedd 2024. Gallwch ddilyn ei her drwy wrando ar BBC Radio Cymru a BBC Sounds, neu droi at BBC Cymru Fyw neu’r cyfryngau cymdeithasol.
Meddai Aled: “Rydw i wedi gwneud cryn dipyn o heriau i BBC Plant mewn Angen dros y blynyddoedd, ond bydd hon yn un arbennig o anodd. Mae’n dirwedd heriol iawn, yn enwedig â’r tywydd wedi troi, felly mae’n mynd i fod yn frwydr go iawn. Mae’n achos gwych ac rydw i’n gobeithio y bydd hynny’n fy nghadw i fynd drwy dywydd garw mis Tachwedd.”
I gefnogi Aled wrth iddo ymgymryd â’r daith epig hon, gallwch roi arian i BBC Plant mewn Angen ar-lein (bydd y ddolen isod yn eich ailgyfeirio i dudalen Saesneg)
Gallwch hefyd ffonio ein llinell Gymraeg awtomataidd ar gyfer rhoddion – 0345 607 0011
Codir prisiau daearyddol safonol am alwadau o ffonau sefydlog a ffonau symudol.